Main content

Gary Pritchard - Zut Alors!

'Dyw Gary Pritchard erioed wedi cael fawr o hwyl yn Ffrainc. Ond pam...?

'Dyw Gary Pritchard a'i deulu erioed wedi cael fawr o hwyl yn Ffrainc. Ond pam...?

Gary Pritchard:

Dydw i erioed wedi cael llawer o lwc yn Ffrainc. Tra'n gyrru i Sbaen ar wyliau teuluol flynyddoedd yn 么l, torrodd y car i lawr y tu allan i Baris. Bu rhaid i ni aros diwrnod ychwanegol cyn llogi car Ffrengig i barhau gyda'n taith.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach tra'n teithio o amgylch Ewrop yn ystod gwyliau coleg, cafodd fy waled ei ddwyn yn Nice...

Blwyddyn yn ddiweddarach, wedi teithio o amgylch Ewrop am bedair wythnos, roeddwn yn styc yn Calais am ddeuddydd ychwanegol oherwydd streic llongau ac oherwydd ein bod ni eisoes wedi colli'r hovercraft ddiwethaf. Anlwcus... wel, mi fasa rhai yn meddwl. Ond, mae'n troi allan bod yna reswm dros yr anlwc Ffrengig.

Wrth hel achau'r teulu, ddois i ar draws John Hughes, fy hen daid. Wedi gadael y fyddin ar 么l ymladd yn Rhyfel o Boer, ymunodd John Hughes 芒 gwasanaeth heddlu Sir F么n ym 1902. Ond bu raid iddo fo adael yr heddlu wedi saith mis o wasanaeth yn unig, wedi ei wraig, Mary, fynnu bod y swydd yn rhy beryg.

Felly, aeth o i weithio i gwmni London and North Western Railways fel taniwr ar y fferi rhwng Caergybi a Dulyn.

Un noson tra'r oedd o ar y 'watch' ym mhorthladd Dulyn, cafodd ddadl gyda dyn dieithr ar fwrdd y llong. Wrth ymladd, tarodd y dyn fy hen daid ac mi ddisgynnodd yntau rhwng y llong a'r cei i'r m么r a boddi.

Yn y llys, daeth i'r amlwg mai Ffrancwr o'r enw Monsieur Jean LeGalle oedd y dyn diarth. Ac roedd y ddau yn ymladd, yn 么l y Dublin Evening Herald beth bynnag, gan nad oedd naill yn deall iaith y llall.

Yn dilyn y digwyddiad, gwrthododd fy nain i unrhyw aelod o'r teulu rhag ymweld 芒 Ffrainc, na dysgu'r iaith Ffrangeg. Does na ddim syndod felly am yr holl anffawd yn Ffrainc, nac ychwaith am y ffaith fy mod wedi cael gradd 'U' yn fy lefel-O Ffrangeg!

Holi Gary Pritchard yn 2008:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Roedd fy nhad yn blismon felly roeddem yn symud o gwmpas cryn dipyn pan oeddwn yn blentyn. Wedi byw yn Lerpwl, symudodd y teulu yn 么l i Gymru wrth i dad gael swydd yn Sir F么n.

Cefais fy addysg Uwchradd yn Ysgol Bodedern cyn mynd i'r Coleg yn Bradford i astudio i fod yn Optegydd. Ond wedi saith mlynedd o fod yn Optegydd penderfynais newid gyrfa a chefais swydd 芒 Radio Cymru.

Rwyf bellach yn gweithio i 成人快手 Cymru'r Byd fel gohebydd chwaraeon.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae fy stori yn s么n am fy mhrofiadau anlwcus yn Ffrainc - a'r rheswm dros yr anlwc. Daeth y stori i'r amlwg wrth i fy nhad a minnau hel achau'r teulu a chredaf ei fod yn un hynod ddifyr.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Roedd y profiad o wneud y stori yn un gwych. Cafwyd lot fawr o hwyl wrth i bawb yn y gweithdy rannu profiadau a sgiliau technegol.

Release date:

Duration:

2 minutes