Main content

Crwydro - Catherine Craven

Roedd gweld ei ffrindiau ysgol ddim yn hawdd i Catherine Craven pan oedd hi'n byw ym Mhontygwaith. Cafodd y stori yma ei chreu trwy gynllun Plant y Cymoedd.

Roedd gweld ei ffrindiau ysgol ddim yn hawdd i Catherine Craven pan oedd hi'n byw ym Mhontygwaith.

Cafodd y stori yma ei chreu trwy gynllun Plant y Cymoedd, wedi ei gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, 成人快手 Cymru ac Archif Genedlaethol Sain a Sgrin Cymru.

Catherine Craven:

Doedd mam na dad ddim yn siarad Cymraeg, felly dim ond fi a fy mrawd oedd yn medru'r iaith. A doedden ni ddim yn siarad Cymraeg gyda'n gilydd.

Ond dwi'n meddwl fod yr ysgol Gymraeg yn rhoi gwell addysg i'w plant nag oedd yr ysgol yn Saesneg.

Es i i'r ysgol ym Mhont-y-gwaith ar y pryd. O'n ni'n byw yn Tylorstown felly roedd yn rhaid i fi gerdded i lawr dros y mynydd a cherdded nol eto.

Roedd un ffrind da fi yn yr un flwyddyn yn byw ar ben Tylorstown, felly roedd yn rhaid mynd ati hi. Ond chi'n gwybod, doedd neb yn yr un stryd na'r stryd nesa na'r stryd wedyn!

Roedd ffrind arall gyda fi wedyn yn Nglyn Rhedynog neu Ferndale, ac mae hynny milltir a hanner falle i gerdded. Felly os oedden ni am ei gweld hi, roedd rhaid cerdded i Glynrhedyn a nol lawr eto.

Fel arfer buaswn yn cerdded falle i Glynrhedyn a dewis wedyn mynd i nofio. Roedd y pwll nofio yn Ystrad a bydden ni'n cerdded dros y mynydd wedyn, dros Penrhys, lawr yr ochr arall, nofio mewn dwy awr, falle cael gem o badmington a cherdded nol.

Felly o' ni wastad yn crwydro rownd ac yn cerdded llawer i gyrraedd ffrindiau ac ati.

Roeddech chi'n teimlo llawer saffach. Roeddech chi'n mynd peth cyntaf yn y bore ac yn dod 'n锟絣 gyda'r nos heb unrhyw ots.

O'n ni'n mwynhau cerdded o ran hynny ac yn sylweddoli bod yr ardal; y lle o'n hamgylch chi yn hyfryd iawn.

Release date:

Duration:

2 minutes