Kirsty Williams - Mam
Mae Kirsty Williams yn s么n am y berthynas agos sydd ganddi gyda'i mam ac mae'n benderfynol o beidio bod yn rhy bell o'i ffrind gorau.
Mae Kirsty Williams yn s么n am y berthynas agos sydd ganddi gyda'i mam ac mae'n benderfynol o beidio bod yn rhy bell o'i ffrind gorau.
Kirsty Williams:
Roedd Mam wrth ei bodd pan ges i fy ngeni, ond do'n i ddim yn angel o bell ffordd. O'n i wastad yn dringo mas o'r 'playpen' a Mam yn gorfod gwylio popeth o'n i'n wneud.
Doedd neb yn fy nheulu yn gallu siarad Cymraeg, ond roedd Mam yn mynnu fy mod i'n cael addysg Gymraeg ac rwy'n falch nawr bod Mam wedi mynnu.
Weithiau rydyn ni'n cwympo mas. Dwi'n cofio unwaith dod gartre o'r clwb rygbi'n 'llawen' a doedd hi ddim yn hapus iawn. Ond fe chwerthinodd pan glywodd hi fi'n canu!
Ond y prif reswm rydyn ni'n cwympo mas yw'r llanast yn fy ystafell wely. Mae hi wastad yn conan bod fy nillad ym mhobman, a'r fideos ar C.Ds ar hyd y lle. Ond rydyn ni wastad wedi bod yn agos.
Llynedd aeth y ddwy ohonon ni mas i Majorca am bythefnos. Gan bod Mam yn dioddef o athritis roedd y tywydd poeth yn ei helpu a chawson ni lawer o sbort yn eistedd ar y traeth.
Yn y nos roedd Mam a fi'n dwli mynd am bryd o fwyd a roedd y 'prawn cocktail' a'r 'caviar' yn hyfryd - yn gwmws fel y gweinydd o'dd yn gweithio yn y lle bwyta! Ond o'dd Mam yn gwneud yn siwr bo fi'n bihafio.
Rwy'n gobeithio mynd i'r coleg mewn dwy flynedd, ond dwi ddim eisie mynd yn rhy bell oddi wrth Mam achos dwi'n ei gweld hi'n fwy o ffrind na Mam. Hi ydi popeth yn fy mywyd; dwi'n meddwl y byd ohoni.
Holi Kirsty Williams:
Dywedwch rywfaint o'ch hanes.
Fy enw llawn i yw Kirsty Angharad Eirlys Sarah Louise Williams. Rwy'n hoffi paentio, ysgrifennu, ffotograffiaeth a sgetsio. Fy hoff rhaglen ar y teledu yw 'Buffy the Vampire Slayer' a 'Angel' ac rwy'n ffan mawr ohohyn nhw.
Fy hoff actores yw Sarah Michelle Gellar a fy hoff actor yw David Boreanaz. Rwy'n hoffi gwylio filmiau, ac mae 'Save the Last Dance', 'Moulin Rouge' a 'Dog Soldiers' yn ffefrynau.
Beth yw pwnc eich stori?
Mae fy stori am fy agosatrwydd tuag at fy Mam a'n perthynas dros y blynyddoedd. Roeddwn am greu ffilm am hyn oherwydd mae fy mam yn bwysig iawn i fi.
Mae hi wedi wedi cefnogi popeth dwi wedi gwneud yn fy mywyd. Hyd yn oed os oes yna rhywbeth anodd wedi digwydd yn fy mywyd, mae hi wastad wedi cefnogi fy newis.
Sut oedd y profiad o greu stori ddigidol eich hun?
Roedd fy mhrofiad o wneud stori digidol yn 'blast'. Roedd e'n ddiddorol iawn a phrofiad da ar gyfer unrhyw waith yn y dyfodol. Hefyd roedd y cyfle yn ffordd dda o ddangos fy ngwerthfawrogiad tuag at fy Mam.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 成人快手 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—成人快手 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00