Main content

Maldwyn Williams - Teulu'r Llewod

Mae Maldwyn Williams yn fab i deulu o chwarelwyr. Penderfynodd yn ifanc iawn nad oedd am fynd i weithio i'r chwareli, ac wedi gweithio am ddeugain mlynedd i'r swyddfa post ym Mlaenau Ffestiniog, mae'n cwestiynu yr hyn mae'n teimlo ei fod wedi ei golli.

Holi Maldwyn Williams:

Dywedwch rywfaint am eich cefndir

Rwy'n byw ym Manod, ardal hyfryd o Flaenau Ffestiniog. Rwyf yn briod gyda Elizabeth - hogan leol o Lan Ffestiniog - ac mae gennym dri o blant; tri w欧r a thair wyres ac mae'r holl deulu yn siarad Cymraeg.

Am beth mae eich stori yn s么n?

Mae'r stori am fy nheulu ac am ddioddefaint y chwareli llechi. Wrth hel achau teuluoedd, rwy'n sylweddoli y dioddefaint ar ochr 'nhad o effaith gweithio'n y chwareli.

Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?

Roedd cael y cyfle o weithio gyda Photoshop 7 yn werthfawr -roeddwn yn rhyfeddu at allu'r meddalwedd. Roedd y t卯m i gyd yn gefnogol trwy gydol y cwrs.

Release date:

Duration:

3 minutes