Eirlys Roberts - Canrif o Gariad
Mae Eirlys yn athrawes wedi ymddeol sydd bellach yn treulio'i diwrnodau yn gweithio ar fferm odro gyda'i g诺r a'i mab. Nid yw'n gwisgo llawer o emwaith, ond mae'n berchen ar bum modrwy deuluol arbennig iawn.
Mae Eirlys yn athrawes wedi ymddeol sydd bellach yn treulio'i diwrnodau yn gweithio ar fferm odro gyda'i g诺r a'i mab. Nid yw'n gwisgo llawer o emwaith, ond mae'n berchen ar bum modrwy arbennig iawn.
Eirlys Roberts:
Does gen i fawr o amser i drafferthu gyda gemwaith. Dwi'n rhy brysur yn gweithio ar y fferm i boeni am bethau felly. Ond mae gen i bum modrwy.
Rai misoedd ar 么l marwolaeth cyfnither i 'nhad daeth bocs i'n t欧 ni, ac ynddo roedd copi o'r Meseia, Beibl Ffrangeg a modrwy.
Fy modrwy gynta' erioed! Roedd y llythrennau M ac E arni. Modrwy May Edwards o'r Bala ydi hi. Welais i 'rioed mo' May, ond gwelais ei llun gan Mam.
Cefais fodrwy ddywedd茂o gan fy ng诺r ar ddiwrnod Rali'r Ffermwyr Ifanc yn Llysfasi. Fydda i byth yn ei gwisgo gan ei bod braidd yn llac ac yn goblyn am ddifetha p芒r o deits!
Ar Sadwrn ola'r flwyddyn yn 1962 priododd fy ng诺r a finne yn L么n Swan Dinbych. Modrwy briodas ar si芒p yr hen ddarn pisin tair oedd gen i ac er bod 么l traul blynyddoedd arni, gallaf ddal i deimlo'r onglau.
Priododd fy Nhad a Mam am 8.30 ar fore Llun ym mis Mehefin 1935. Bu llawer o dynnu coes am iddynt briodi mor gynnar! Ond ymddengys fod y Ficer eisiau mynd i briodas arall yn ddiweddarach yn Llanelwy!
Modrwy denau, ddi-si芒p, bron 芒 hollti, ond gallwch weld y marciau sy'n dangos 22 carat yn glir iawn. Fedra i byth mo'i gwisgo hi, mae'n rhy fawr, ond mae 'na rywbeth yn ei chylch.
Modrwy Briodas fy Nain: Ar Fai yr 20fed 1905, priododd Nain a Thaid. Canrif o gariad. Gwraig fferm oedd hithau, ond does gen i ddim cof ohoni.
Pum modrwy yn plethu'r naill genhedlaeth a'r llall, ac yn symbol o gariad teuluol. Gobeithio ryw ddydd bydd yr wyrion yn gwerthfawrogi'u hanes a'u harwyddoc芒d.
Holi Eirlys Roberts:
Allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hun?
Yn enedigol o Landrillo, ond yn byw yn ardal Dinbych ers 1956. Wedi ymddeol o fod yn athrawes. Gwraig fferm, yn gallu trin ychydig ar y cyfrifiadur at waith bob dydd.
Beth mae eich stori amdano?
Pum modrwy sydd yn fy meddiant.
Pam y dewisoch s么n am y stori yma yn arbennig?
Dewisais y stori yma ar 么l gwylio ffilmiau eraill yn y gweithdy. Rwyf hefyd yn hel achau'r teulu ers blynyddoedd.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Diddorol iawn. Wnes i 'rioed wneud hyn o'r blaen. Y criw yn dangos fod ganddynt ddigon o amynedd! Wedi mwynhau yn fawr. Pwy a wyr na wnaf lunio stori arall rywbryd yn y dyfodol os caf 'ysbrydoliaeth'.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 成人快手 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—成人快手 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00