Emlyn & Sian Parry - Profiadau Mared
Stori Emlyn a Sian Parry o Flaenau Ffestiniog a'i merch fach, Mared, cafodd ei geni gyda nam ar ei glun. Wynebodd Mared sawl achos o lawdriniaeth a disgrifia ei mam effaith ei salwch ar y teulu.
Aeth Emlyn a Sian drwy gyfnod anodd iawn pan ddaeth y newydd fod eu merch, Mared, yn s芒l. Gwrandewch ar brofiadau Mared wrth iddi ddod i lwyr wellhad a bellach, does dim yn ei rhwystro hi nawr.
Sian Parry:
23ain o Orffennaf 1996 - diwrnod y ganwyd Mared, ein hogan fach ni. 6 pwys 11 owns, ac yn iach fel y gneuen. Am y flwyddyn a hanner cyntaf, roedd pob dim yn tsiampion, ninna' wedi gwirioni ac wrth ein bodda'. Wedyn daeth y glec - gafo' ni wybod bod Mared ni yn diodda' o CDH -'congential dislocation of the hip'.
Ma'n anodd disgrifio ffordd o'n i ac Emlyn y g诺r yn teimlo. Pawb yn ddigon cl锚n a chefnogol, deud basa pob dim yn iawn, ond doedda' nhw ddim o bell ffordd. Roedd Mared, ein hogan fach ni'n s芒l, roedd hi'n wahanol i bob plentyn arall.
Mynd 芒 hi i Fangor, llawdriniaeth ar 么l llawdriniaeth, ond petha'n gwella dim. Gweld hi'n cael ei rhoi ar 'traction', Dad yn dod draw i'w gweld, ac yn gorfod mynd allan o'r 'stafell rhag crio. Roedd petha'n uffernol. Gorfod mynd i Alder Hey yn Lerpwl, a chlywad llais annwyl Mr. Walsh yn d'eud fasa' fo'n trio'n helpu.
Mwy o lawdriniaethau, treulio oria' yn eistedd a gobeithio -canu hwiangerddi, er mwyn ei helpu hi gysgu.
Erbyn hyn, mae Mared ni yn saith ac yn r锚l boi. Mae'n hapus, iach ac yn llawn bywyd, ac yn cadw athrawon yr ysgol gynradd yn brysur. Llynedd 'ddaru sefyll ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd a chystadlu ar yr unawd dan wyth.
Oedd gweld hi yno, yn w锚n o glust i glust, yn golygu cymaint i ni. Roedd hi'n benderfynol o gystadlu, ac o ennill... ac fe wnaeth hi. Rydyn ni mor falch ohoni, ein Mared fach ni.
Holi Sian ac Emlyn:
Sian, Emlyn, allwch chi ddweud rhywfaint amdano'ch hunain.
Rydym yn rieni i dri o blant bach - Mared, Rhys ac Alaw. Mae'r ddau ononom wedi cael ein magu ar fferm sydd ddim yn bell o'i gilydd yn ardal Ffestiniog.
Am beth mae eich stori yn s么n?
Profiadau ein merch hynaf, Mared, a sut mae hi wedi datblygu a llwyddo mewn cyn lleiad o amser. Gan fod ei phrofiadau hi wedi cyffwrdd ein calon ni fel teulu. Rydym yn gobeithio bydd y stori yn helpu pobl arall yn yr un sefyllfa weld fod golau ar ddiwedd y twnel.
Beth oedd eich profiad chi o wneud stori ddigidol?
Werth i gael. 'Dy'n ni'n methu aros i gael cyfle arall.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 成人快手 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—成人快手 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00