Michael Salmon -Wncwl Martin
Mae'r Nadolig yn amser arbennig i bob plentyn wyth mlwydd oed, ond i Michael Salmon o Gastell Nedd, mae yna reswm arbennig arall am hyn.
Mae'r Nadolig yn amser arbennig i bob plentyn wyth mlwydd oed, ond i Michael Salmon o Gastell Nedd, roedd yna reswm arall. Yn 1994 daeth ymwelydd annisgwyl i'r cinio Nadolig teuluol, ei arwr, ei ewythr o filwr, Wncwl Martin.
Michael Salmon:
Mae'r Nadolig yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Ond i mi y mae un Nadolig yn aros yn y cof - Nadolig 1994.
Yn wyth mlwydd oed; codi am 'wech y bore; agor anrhegion wrth dorri'r papur yn gloi ac yn aros yn amyneddgar i Nain a Dadcu ddod am eu cinio. Mam yn coginio'r twrci a pharatoi'r llysiau a tatws. Y ford wedi ei osod a phopeth yn barod. Yna dadcu, yn llawn llawenydd y Nadolig a fi yn rhedeg i'w gyfarch.
Eisteddom i lawr a thynnu cwpwl o gracers, tra'r oedd Mam y rhoi'r llysiau a'r twrci i'r ford. Daeth cnoc wrth y drws. 'Helo', meddai'r llais. Yn sydyn gwenais o glust i glust wrth i mi sylweddoli pwy oedd yno - fy wncwl Martin.
Neidiais o'm cadair a rhedeg i'r drws. Roedd 'da fe focs yn llawn anrhegion i bawb. Ond o'n i ddim yn hidio - yr anrheg oedd cael gweld fy wncwl -fy arwr ar Ddydd Nadolig.
Bu fy ewythr i ffwrdd yn Bicester, Rhydychen, yn aelod o'r fyddin ers saith mlynedd. Yr oeddwn mor browd ohono - yn filwr ac yn arwr i mi.
Delwedd olaf - Martin Salmon Chwefror 16, 1970 - Ionawr 21, 1995. Yn y cof am byth.
Mwy am Michael:
Rwyf yn ddisgybl chweched dosbarth ac yn bwriadu mynd i'r brifysgol y flwyddyn nesaf i astudio'r cyfryngau. Rwy'n hoffi ffilmiau, cymdeithasu gyda ffrindiau ac yn mwynhau pob dydd.
Stori i gofio fy wncwl a fu farw yn 1995 yw hon. Bwriad y stori yw dathlu ei fywyd ac atgoffa'r teulu o'i gymeriad. Roeddwn am greu y stori i atgoffa fy hun o'r wncwl a gollais pan oeddwn yn ifanc iawn. Roedd ei gymeriad yn gymorth i mi wneud y stori yma.
Dysgais i ddefnyddio technoleg broffesiynol wrth weithio ar y prosiect hwn. Braf oedd cymysgu gyda grwp o gymeriadau hollol wahanol a gwrando ar brofiadau pobol o bob oed. Cefais amser da yn dysgu a chael hwyl gyda chriw Cipolwg a gweddill y grwp. Profiad arbennig!
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 成人快手 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—成人快手 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00