John Howell Betton - Fy Spitfire Newydd
Mae John Howell Betton o Betws, Rhydaman, yn gweithio'n ddiwyd yn ei garej yn Rhydaman. Ond dim cynllun cyffredin yw'r prosiect yma. Mae am adeiladu awyren Spitfire newydd, allan o goed!
Mae John Howell Betton yn gweithio'n ddiwyd yn ei garej yn Rhydaman. Ond dim cynllun cyffredin yw'r prosiect yma...
John Howell Betton:
Mae gen i lawer o ddiddordebau. Un ohonyn nhw yw'r Prosiect Spitfire. Ma'r wraig wastad yn conan mod i ddim yn gwneud digon yn y cartref ac y dylen i bilo tato yn lle gwastraffu amser ar y Spitfire.
Rwy'n hoffi Spitfires - ma' nhw'n edrych yn dda o hyd. Hefyd ma' s诺n yr injan fel y g芒n Myfanwy! Ma'r Spitfire yn awyren sy'n enwog am ei gwaith yn ystod y rhyfel a'i rhan ym Mrwydr Prydain.
Rwy'n cofio'r amser pan o'n i'n grwt, mynd i RAF St. Athan gyda'r ysgol a gweld Spitfires yn cael eu chwalu fel scrap. Heddi, ma' pobl yn chwilio amdanyn nhw ac yn talu hyd at filiwn o bunne' am un da.
Pan es i i wneud Gwasanaeth Cenhedlaethol yn yr RAF, ces i'r cyfle i weld sawl Spitfire yn cael eu harddangos yn yr awyr agored pan o'n i o dan hyfforddiant yn Bridgenorth yn 1958.
Ar 么l cwpla yn yr RAF fel 'RAF Regiment Gunner', bu'n rhaid i mi weithio yn y gwaith glo. Ar 么l sbel, es i i ga'l hyfforddiant fel peilot gyda Victor Hopkins yn Fairwood Common, Abertawe. 'Roedd Vic a'i wraig Helen yn rhedeg y clwb hedfan - y 'Swansea Flying Club'. Roedd Vic yn llym iawn ond o'n i'n hedfan yn saff o' dano fe am undegsaith blynedd.
O'n i eisie adeiladu Spitfire newydd, mas o goed. Penderfynes i adeiladu'r awyren Jordell gynta' - 'Jordell D9 single-seater'. Fe wnes i ei phrynu hi yng Nghaerdydd, wedi ei hadeiladu'n rhannol. A dyn yn Rhydaman, Alan Usherwood, wnaeth roi cymorth i fi gyda'r gwaith.
Wedyn prynes i gynlluniau ar gyfer adeiladu Isaac Spitfire. Dwi wedi bod yn gweithio am tua deng mlynedd ar ben fh hunan a dwi wedi cyflawni tri chwarter o'r gwaith. Ond ma' problem gen i - dyw'r garej dim yn ddigon mawr i roi'r awyren at ei gilydd.
Pan fydda i wedi gorffen adeiladu'r Spitfire, dwi wedi addo i'r wraig y byddai'n fodlon agor siop tships a philo'r tato fy hunan... os bydd hi yn fodlon gwerthu'r tships!
Holi John Howell Betton:
Beth yw'ch cefndir chi?
Rwy'n 66 ac yn briod am yr ail dro. Rwy'n byw ym Metws, Rhydaman.
Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?
Wnes i fwynhau cwrdd 芒 phobl newydd, gweithio gyda th卯m cyfeillgar, gweld sut mae'r straeon yn cael eu creu. Roedd yn fraint i gael y cyfle i adrodd fy stori fy hun.
Duration:
This clip is from
More clips from Cipolwg ar Gymru
-
Rhodri Pugh - Y Gnoc!
Duration: 02:16
-
Shirley G Williams - Seren W卯b
Duration: 01:11
-
Charles Cochrane - Arian heb sglein
Duration: 01:17
-
Keith O'Brien - Tu hwnt i'r drws
Duration: 02:22
More clips from 成人快手 Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—成人快手 Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00