Cyfrol o farddoniaeth Casi Wyn a chofio pantomeimiau Dafydd Hywel
Ffion Dafis yn clywed am ffotograffydd dogfennol o sir G芒r, a 'Swyn' gan Theatr Genedlaethol Cymru. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen hon mae Ffion yn cael cwmni Casi Wyn sydd yn sgwrsio am ei chyfrol newydd o farddoniaeth yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru rhwng 2021 a 2023.
Hanes gwaith y ffotograffydd dogfennol sydd yn byw a gweithio ym Mhentrecwrt, Sir Gaerfyrddin, mae Mari Grug, tra bod Hedydd Ioan yn ein tywys i fyd y ffilmiau amgen dros gyfnod y Nadolig.
Adolygu cynhyrchiad diweddar Theatr Genedlaethol Cymru, sef 'Swyn' mae Angharad Walton, ac mae Sioned Wiliam yn adolygu llyfr newydd ar fywyd a pherthynas Richard Burton ac Elizabeth Taylor.
Yn ogystal 芒 hyn mae Ffion yn hel atgofion gyda Lisa Marged am y diweddar Dafydd Hywel a'i bantomeimiau bywiog ar hyd y blynyddoedd.
Ac yna i gloi, mae Bardd y Mis, Meleri Davies yn ymuno gyda Ffion i gyflwyno cerdd arbennig fel ymateb i ddigwyddiad celfyddydol sydd wedi mynd 芒'i bryd yn ystod 2023.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Al Lewis
Darlun
- Ar Gof A Chadw.
- Rasal.
- 1.
-
Ragtime, Igor Stravinsky, 成人快手 National Orchestra of Wales & Ryan Bancroft
Ragtime - Stravinsky - 成人快手 NOW
-
Kizzy Crawford & Ffrind
Ffrind - Kizzy Crawford
-
Ysgol Glanaethwy
Haleliwia
- Haleliwia.
- Sain.
- 11.
-
Dafydd Hedd
Atgyfodi
- Bryn Rock Records.
-
Rhys Meirion & Bryn F么n
Gwinllan
- Deuawdau Rhys Meirion.
- Cwmni Da Cyf.
- 1.
Darllediad
- Sul 17 Rhag 2023 14:00成人快手 Radio Cymru & 成人快手 Radio Cymru 2