
Canmlwyddiant Cymdeithas Aredig Tyddewi
John Evans, aelod o Gymdeithas Aredig Tyddewi, yn edrych ymlaen at ddathlu'r canmlwyddiant. John Evans talks about the St David's Ploughing Society Centenary.
Dr Emma Roberts o Dyddyn Môn, Ynys Môn yn sôn am hanes y ganolfan a’r fferm sy'n rhoi cymorth a hyfforddiant i oedolion sydd ag anableddau dysgu. Hefyd hanes ail-agor y Tŷ Crempog ar y safle, yn barod ar gyfer Dydd Mawrth Ynyd.
Sgwrs gyda Gwenno Rowlands o Nantglyn, Dinbych – enillydd Gwobr Dysgwr Ifanc Coleg Cyswllt Ffermio o dan 20 oed yng Ngwobrau Lantra yn ddiweddar.
John Evans o Mathry yn Sir Benfro – aelod o Gymdeithas Aredig Tyddewi - yn edrych ymlaen at ddathlu canmlwyddiant y gymdeithas y penwythnos nesaf, gyda gornestau aredig go arbennig.
Hefyd, Llŷr Griffiths-Davies â’r rhagolygon tywydd am y mis i ddod, a Llŷr Roberts, Prif Weithredwr newydd cwmni Menter a Busnes yn adolygu rhai o’r straeon gwledig yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 19 Chwef 2023 07:00³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru
- Llun 20 Chwef 2023 18:00³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru 2 & ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru