Nadolig
Mae'r Nadolig wedi cyrraedd! Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Ydych chi'n cofio Mordecai, Meical, Sera, Carys a Sam? Mae'r ffilm "Y Dyn Nath Ddwyn Nadolig" yn un o glasuron yr ŵyl a Caryl Parry Jones sy'n sôn am un o ganeuon o'r ffilm o 1985, sef Ffynnon Ffydd, a oedd yn cael ei chanu gan Siwan Bowen Davies.
Mae Dewi Pws ac Ifan Gruffydd yn y parti Nadolig a'r ddiod yn llifo yn rownd y geiriau mwys ar y gêm banel Dros Ben Llestri.
Plant ysgolion Cymru yn ateb cwestiynau mawr y tymor. Be ydi angel? Ble mae Sion Corn yn byw? Disgyblion Ysgolion Pant Pastynnog, Prion; Maenofferen, Blaenau Ffestiniog; Bro Hyddgen, Machynlleth; Treganna, Caerdydd a Gwenllian, Cydweli sy'n mynd i hwyl yr ŵyl.
Mi fydd y dyn barfog yn ei siwt goch yn brysur iawn rhwng Rhagfyr y 24ain a'r 25ain yn gadael anrhegion i blant bach da o gwmpas y byd. Richard Hughes sy'n sôn am swydd bwysig iawn sy' ganddo yn ardal Porthmadog yn y dyddiau yn arwain i fyny at Ragfyr 25ain, sef rhoi cymorth i Sion Corn!
Cyfle i baratoi am Å´yl y Geni ydi'r Adfent a dyma'r Gwir Barchedig Cledan Mears i esbonio mwy.
Cyfansoddi pennill ar gyfer cerdyn Nadolig oedd y dasg i wrandawyr rhaglen Hywel Gwynfryn, Pnawn Da ichi, nôl yn 1989. Nesta Wyn Jones oedd yn traddodi’r feirniadaeth a'r enillydd oedd Mary Richards, Cwmllinau – trip i Baris oedd y wobr!!
Dic Jones yn cofio plifio tyrcwns a Cassie Davies a’r criw yn canu geiriau Idwal Jones "Wishgit Wishgit Ffwrdd a ni...".
Len Rowlands yn sôn am hen draddodiadau yn ymwneud â Gŵyl y Geni ac yna stori ysbryd i gloi gan neb llai na T Llew Jones.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 5 Rhag 2021 14:00³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru & ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru 2
- Mer 8 Rhag 2021 21:00³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru 2 & ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru