Dysgu Wrth eu Gwaith
Wrth i filoedd o bobol ddysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo, Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r siaradwyr Cymraeg newydd. Meeting people who've learnt Welsh during the pandemic.
Beca Brown sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o bobl o bob man yn y byd sydd wedi dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo.
Yn y rhaglen hon cewn gwrdd â:
ADRIAN PRICE
Mae’r Senedd yn un o’r sefydliadau sy’n cynnig gwersi Cymraeg yn y gwaith ac mae Adrian Price, sy’n diwtor yno, yn trafod profiadau pump o ddysgwyr - Barrie Long, Sue Morgan, Alex Hadley, Meic Dauncey a Nigel Barwise.
MEGAN HUTCHINSON
Cyn astudio meddygaeth yng Nghymru, prin oedd gwybodaeth Megan Hutchinson o’r Gymraeg a hithau’n ei hystyried yn iaith farw fel Lladin. Ond bellach mae’n falch iawn o fod yn gallu cyfathrebu yn yr iaith newydd gyda chleifion. Yn ystod y Cyfnod Clo roedd yn feddyg ifanc yn ysbytai Tywysog Siarl Merthyr a Brenhinol Gwent. Bellach mae’n gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd.
DEBORAH MCCARNEY
Roedd Deborah McCarney, sydd o Seland Newydd yn wreiddiol, eisoes yn siarad Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Esperanto cyn dysgu Cymraeg er mwyn symud i Gymru a byw yn Llandysul am chwe blynedd. Erbyn hyn mae’n diwtor gyda Say Something in Welsh ac yn ystod y Cyfnod Clo mae wedi codi pac unwaith eto i fyw yng Ngwlad y Basg.
JAMES HORNE
Symudodd James Horne o Swydd Efrog i Fangor i ddilyn cwrs gradd yn y brifysgol mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg. Ond gan nad oedd yn bosib iddo dreulio cyfnod yn yr Almaen penderfynodd ddysgu Cymraeg, a blwyddyn a hanner yn ddiweddarach mae’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon er mwyn dysgu ieithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.
BEN OWEN-JONES – Cyfle i glywed am lwyddiant yr actor a’r darlithydd wrth ddysgu Cymraeg ym Mlaenau Gwent.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 14 Hyd 2021 18:30³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru 2 & ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru