Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ³ÉÈË¿ìÊÖ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Lliwiau

Yr Ynys Werdd, Y Trwynau Coch a Llyfr Melyn Oerddwr sydd ymhlith yr hyn dan sylw wrth i John Hardy drafod lliwiau. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Pa un yw eich hoff liw? Achos dyma daith o gwmpas yr archif ar y thema lliwiau, yng nghwmni John Hardy.

Coch yw'r lliw cynta’ sy' o dan y lach wrth i fechgyn Cwm Tawe, Y Trwynau Coch, hel atgofion am ddyddiau cynnar y grŵp yn niwedd y 70au.

Mae'r cerddor a'r pianydd dawnus Siwan Rhys yn sôn am Synesthesia - mae Siwan yn gweld y nodau fel lliwiau ac, o'r herwydd, mae’n haws iddi gofio darnau cymhleth ar y piano. Ac fe arhoswn ym myd yr allweddellau du a gwyn a threulio orig fach yng nghwmni'r cyfeilydd Maimie Noel Jones.

Lliwio'r gwallt ai peidio? Dyna a ofynnwyd i drigolion Caerfyrddin, cyn i T. Glynne Davies holi Elwyn "Mwnci" Hughes a'i wraig am liwio gwallt.

Roedd lliw logo Plaid Cymru ar y dechrau yn wyrdd ond ers 2006 mae’n felyn. Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru Blaid am 36 mlynedd, sy’n sôn am ei hanes cynnar yn y Barri a mynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn yr Ysgol Uwchradd. Cyn troi ein sylw at ein cefndryd Celtaidd - i'r Ynys Werdd a Dr Harri Pritchard-Jones yn esbonio ei hoffter o'r wlad.

I fyd natur nesa’: mae Twm Elias yn trafod pwysigrwydd lliwiau ym myd y pryfetach a'r nadroedd, a’r opthamolegydd anifeiliaid Rose Linn-Pearl yn esbonio sut mae anifeiliaid yn gweld yn wahanol i bobol, cyn gorffen efo Medwyn Williams yn sôn am flodau pinc.

Mae Elizabeth Hughes yn sôn am greiriau teuluol y bardd Goronwy Owen, sydd yn y Dafarn Goch, Ynys Môn. Dr Bleddyn Owen Huws yn sôn am Lyfr Melyn Oerddwr, cyfrol deuluol yn cofnodi hanesion a digwyddiadau adeg y Rhyfel Mawr ac sy’n cynnwys cerddi gan Syr TH Parry Williams.

A’r lliw piws sy'n glo i’r rhaglen – yng nghwmni Dewi "Pws" Morris a'r Tebot Piws!

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 1 Medi 2021 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 29 Awst 2021 14:00
  • Mer 1 Medi 2021 21:00