Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 成人快手 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwyliau

Gwyliau yw'r thema wrth i ni bori drwy'r archif. Gwibdaith i'r UDA, Aberdyfi, Butlins, Aberaeron a Rhyl, i enwi 'mond ychydig. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Paciwch eich c锚sus, mae John Hardy yn mynd a ni ar wyliau drwy'r archif!

Mae angen y sequins a'r siwt grand ar gyfer y daith cynta鈥, wrth i Margaret Williams s么n am ei gyrfa ar y llongau pleser. Clywn hefyd hanes Maggie Evans a oedd yn cadw gwesty yn Aberdyfi ac yna taith dros yr Iwerydd wrth i Mrs Elen Jones o Fethel fynd ar 鈥渧acation鈥 i America a chael trip i fferm Buffalo Bill.

Mae Harri Parri yn siarad gyda T H Jones, Caelloi, Pwllheli yngl欧n 芒 sut ddechreuodd y cwmni bysus ... efo mul mae鈥檔 debyg! Robin Williams sy鈥檔 holi Pegi Parry am fanteision mynd ar wyliau gyda bws moethus, a Bob Morris yn s么n am ei gyfnod o 7 mlynedd yn gweithio dros yr haf yn Butlins, Pwllheli. A hanes Daniel Jones yn ymweld 芒 Glastonbury yn 1984 a chwrdd 芒 Siwsann George o'r gr诺p gwerin Mabsant.

Mae Miss Elaine Lewis a fu鈥檔 byw yn Aberaeron, yn cofio鈥檙 ymwelwyr yn dod yno pan oedd hi鈥檔 blentyn. Bu Elaine yn athrawes yn Ysgol y Sir am dros ddeugain mlynedd. A T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones a oedd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros ddeugain mlynedd, a chadw gwesteion fel Morecambe & Wise a hefyd Russ Conway.

Ac os ydych chi鈥檔 eu caru nhw neu yn eu casau nhw, mae gwyliau carafan yma i aros - Sulwyn Thomas sy'n canu eu clodydd i Dyfan Roberts.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Awst 2021 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 15 Awst 2021 14:00