Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 成人快手 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyd-ddigwyddiadau

Cyd-ddigwyddiadau o bob math sydd dan sylw John Hardy wrth iddo bori drwy'r archif. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Beth yw cyd-ddigwyddiad? Tric gan ffawd, dychymyg dyn neu stori gyfleus? John Hardy sy'n mynd ar drywydd pob math o straeon gan ddechrau efo stori anhygoel Gwyn Williams oedd yn gweithio yn Kuwait. Y comediwr Aled Richards yn rhannu ambell i gyd-ddigwyddiad ac un rhyfedd iawn am y pac o gardiau.

Jane Edwards a stori anhygoel am enw arbennig a dyddiad arbennig sef Hugh Williams a'i gysylltiad efo Rhagfyr y 5ed. IB Griffith yn darllen llythyr am gyd-ddigwyddiad un o'r gwrandawyr yn Llundain ac yna Jon Meirion Jones yn adrodd stori am berthynas iddo yn Bremerhaven yn yr Almaen.

Ydech chi wedi cael y profiad o feddwl am rhywun ac yna mae'r ff么n yn canu a'r person yna sydd ar ben arall y ff么n? Mae'n siwr fod pob un ohonom wedi profi rhyw gyd-ddigwyddiadau rhyfedd rhywbryd neu'i gilydd. T Llew Jones yn rhannu ei freuddwydion, Rhodri Jones yn cael arwydd y dylai n么l ei ferch, Esyllt Meillyn yn profi poenau ei chwaer a Robin Williams yn ffeindio y llety cywir, er nad oedd ganddo syniad ble roedd yn mynd.

Fuodd Elfed Bullock a鈥檌 wraig, Rita, ar wyliau i fyny i鈥檙 Alban ac wrth aros mewn gwasanaethau ar y ffordd i fyny dechre siarad efo cwpwl arall a darganfod fod y ddau yn y fyddin efo'u gilydd. Hywel Roberts a'i gyd-ddigwyddiad mewn mynwent a stori arswydus y gantores Eirlys Parry.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 4 Medi 2023 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 25 Gorff 2021 14:00
  • Sul 3 Medi 2023 13:00
  • Llun 4 Medi 2023 18:00