Y Cymry a Hollywood
Taith i Hollywood drwy archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Dathlu'r Cymry yn Hollywood yng nghwmni John Hardy. Dywedodd rhywun 'fod o'n lle mae pobol yn gwario arian nad ydio gennyn nhw ar bethau tydy nhw mo'i hangen er mwyn creu argraff ar bobol tydy nhw ddim yn hoffi'! Mae鈥檔 taith ni i Hollywood yn cynnwys:
Sut wnaeth Hollwyood ysbrydoli Julian Lewis Jones i droi i fyd actio.
Rhan y bariton Ivor Emmanuel yn y ffilm Zulu.
Jon Gower yn olrhain hanes yr actor llwyddiannus Gareth Hughes o Dafen, a oedd yn serennu yn Hollywood yn y 1920au yn y ffilmiau distaw.
Rhian Morgan sy'n trafod hanes diddorol yr actores o Ganada ac o dras Cymreig - Patricia Owens.
Beti George yn holi鈥檙 colurydd Sian Grigg o Gaerdydd, sy' wedi gweithio yn agos iawn efo'r actor Leonardo de Caprio a gyda Ioan Gruffydd, sydd hefyd yn siarad am ei ran yn y ffilm Titanic.
Hilda Owen o Bontrhydyfen yn cofio'n annwyl am ei brawd Richard Burton, ac yna T Glynne Davies yn mynd i Lundain i gwrdd 芒 Hugh Griffith.
Rhys Ifans yn cofio ei ddyddiau cynnar.
A'r diweddar Philip Wynn Jones yn cofio am yr actor dawnus o Ferndale, Stanley Baker (a oedd hefyd yn serennu yn y ffilm Zulu efo Ivor Emmanuel).
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 4 Gorff 2021 14:00成人快手 Radio Cymru & 成人快手 Radio Cymru 2
- Sul 9 Gorff 2023 13:00成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru
- Llun 10 Gorff 2023 18:00成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru