Yr Wyddor Gymraeg - o A i J
Yr Wyddor Gymraeg yw'r thema wrth i John Hardy bori trwy'r archif - o A i J - yn chwilio am hen straeon ac atgofion. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Mae 28 llythyren yn yr hen wyddor a 29 yn yr un modern - gormod o lawer ar gyfer un rhaglen, felly mynd o A i J fydd John Hardy yr wythnos hon. Ac Eraill, Bwystfil y Bont a Chlychau Cadeirlan Llandaf sy'n cychwyn y daith efo'r A B C.
Geirfa'r Chwarel gyda Dr Bruce Griffiths ac yna draw i Ffrainc yr awn am y lythyren D wrth i Alfie Davies o Gyffordd Llandudno gofio glanio yn Dunkirk n么l yn 1940, ac yna Owen Gruffydd o L欧n yn trafod y ddafad wyllt. Y medli wythnosol sy'n perchnogi'r lythyren E ac yna mwy o gerddoriaeth o 糯yl y Faenol yw'r lythyren F.
Muriel Jones oedd yn trafod llythyru efo ffrind yn yr Unol Daeleithiau. Aros yng Nghymru efo'r lythyren nesa - G am Gwesty! Awn am dro hefyd i blwyf Llanfihangel yng Ngwynfa i gartref Ann Griffiths a gan ein bod yn s么n am yr emynydd ac yn agos谩u at y llythyren H, fydde ni wedi medru s么n am yr Henffych Fore, ond fe drown ni yn hytrach at yr Haleliwia.
Draw i'r India am y lythyren I - hanes Dydd G诺yl Dewi yno yn y 40au ac yna cloi'r rhaglen efo Jess.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 9 Mai 2021 14:00成人快手 Radio Cymru & 成人快手 Radio Cymru 2
- Sul 20 Awst 2023 13:00成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru
- Llun 21 Awst 2023 18:00成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru