Y Tywydd
Trafod y tywydd drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
"Chwefror teg yn difetha’r unarddeg", "Glaw y Sulgwyn, ffrwythlon drwy’r flwyddyn" - mae sawl hen ddywediad am y tywydd, ac mae'r Prifardd Dic Jones a Twm Elias yn trafod rhai o'r hen goelion a dywediadau. Cawn hefyd glywed hanes y gȃn Stella ar y Glaw; Geraint Lovgreen a'r Enw Da sy’n ei chanu ond Myrddin ap Dafydd bia’r geiriau ac mae’n rhoi hanes cael ei hysbrydoli ar ôl gwyliau glawog yn Ne Ffrainc.
Mae Islwyn Ffowc Elis yn cofio gaeafau caled ei blentyndod, a Dr Huw Morgan o Brifysgol Aberystwyth yn astudio'r haul, ac yn bennaf, coron yr haul.
O'r Corona i'r Chomolungma, a Dei Tomos yn clywed hanes mynydd ucha’r byd yng nghwmni Dewi Jones, sydd wedi sgwennu llyfr am y cysylltiad rhwng Everest â Chymru.
Sali Evans sy’n cofio eira mawr 1946/47. Roedd Sali yn byw ym Mhontarddulais, ond roedd ei Mam yn byw yn Felindre. Aeth yn aml i helpu ei Mam gyda’r golchi, ond y tro hwn roedd yr eira wedi dechrau disgyn ...
Aeth Arwyn Davies i ardal Cwm Ystwyth i ymweld â chymuned hunan gynhaliol oedd yn byw yn yr awyr agored, i sgwrsio efo Bethan Bray a gofyn sut oedden nhw’n paratoi at y gaeaf? Ac mae Robin Williams yn cofio hafau hirfelyn tesog y dyddiau a fu ac atgofion melys am ei "sandshoes" a oedd yn cael eu peintio efo Blanco er mwyn eu cadw'n wyn.
Ac yn ola’, mae John Huws yn holi Graham Thomas, Cilgerran, a oedd yn arbenigo ar y tywydd ac effaith y tywydd ar yr amgylchedd. Cynhesu mae'n mynd i wneud yn hytrach na mynd yn oerach - sut mae esbonio hynny? Mae chwarter canrif ers y sgwrs yma ...a faint wir sy’ di newid?
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 18 Ebr 2021 14:00³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru 2 & ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru