
Golau Glas y Gwasanaethau Brys
Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy yn ymwneud 芒'r Gwasanaethau Brys. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy, celebrating our Blue Lighters!
Ymhlith y pytiau, sy'n cynnwys perlau o'r gorffennol fel Glas Y Dorlan, Gari a Mari a deuawd prin rhwng Delme Bryn Jones a Ryan Davies, cawn hefyd brofiadau y rhai bu'n gweithio er ein budd dros y blynyddoedd.
Straeon Huw Bugail Williams oedd yn corlannu defaid yn ogystal 芒 throsedddwyr. Y dynion t芒n, Jim Parry a Gerwyn Howells yn ail-fyw erchyllterau a gwerth eu swyddi,. Taith i'r heli gyda gwaith b芒d achub Porthdinllaen, ac hyd yn oed dawn y ci achub mynydd Fflei.
Hefyd, braint yw sgwrsio gyda dau sydd wedi byw eu bywydau o dan fflachio y golau glas. Eleri Jones sy'n rhannu 31 mlynedd o atgofion o fod yn blismones, y rhai llon a'r lleddf, a Hefin Jones Roberts, a'i brofiad anhygoel o fod yn barafeddyg am ddegawdau.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 31 Ion 2021 14:00成人快手 Radio Cymru & 成人快手 Radio Cymru 2