Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ³ÉÈË¿ìÊÖ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Lily Rogers

Y cerddor Dafydd Jones, yr artist Lily Rogers o'r Rhondda a Gwenllian Beynon o Sefydliad Celf Josef Herman yn ymuno gyda Shân. A warm welcome over a cuppa with Shân Cothi.

Fel rhan o gyfnod Haf Dan Glo ³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru, cawn glywed hanes y cerddor ifanc o Ynys Môn, Dafydd Jones, sydd wedi gweld effaith mawr ar ei waith creadigol yn ystod y cyfnod cloi, ond y newyddion da yw ei fod wedi penderfynu rhyddhau albwm cwbl Gymraeg ac mi gawn gyfle i glywed un o'r caneuon oddi ar yr albwm, sef ‘Diffodd y Swits’.

Ifan Morgan Jones enillodd Llyfr y Flwyddyn 2020 am ei nofel Babel. Ef hefyd enillodd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 ac fel rhan o'r wobr yna, fe dderbyniodd ddarlun arbennig gan fyfyrwraig ifanc o'r Rhondda, Lily Rogers. Mi fydd Lily yn ymuno gyda Shȃn ac yn sôn am ei gwaith celf, sydd i'w weld ar ei thudalen instagram lilypinemallow.

Mae Sefydliad Celf Josef Herman wedi penderfynu codi arian er budd elusen iechyd meddwl trwy werthu cardiau post ar hap ac mi fydd un o'r ymddiriedolwyr, Gwenllian Beynon, yn sôn mwy am y cynllun. Ganwyd yr artist Josef Herman yn Warsaw ond mi dreuliodd blynyddoedd lawer yn Ystradgynlais yn darlunio'r gymuned lofaol yno, a hyd yn oed yn cael ei adnabod yn yr ardal fel "Joe Bach".

1 awr, 56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 17 Awst 2020 11:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Dewi Morris

    Os

    • Geirie Yn Y Niwl - Dewi Pws.
    • FFLACH.
    • 1.
  • Glain Rhys

    Gêm O Genfigen

    • Sesiynau Stiwdio Sain.
    • Rasal.
    • 7.
  • Gruffydd Wyn

    Cyn i'r Llenni Gau

  • 3 Tenor Cymru

    Ave Maria (Maddau I Mi)

    • Tri Tenor Cymru.
    • SAIN.
    • 3.
  • Pry Cry

    Diwrnod Braf

    • Buzz.
    • 18.
  • Sian Richards

    Torri

    • TORRI - SIAN RICHARDS.
    • Independent Artist.
    • 1.
  • Côr Canna

    Gobaith Yn Y Tir

    • Canna.
    • SAIN.
    • 10.
  • Dafydd Iwan

    Gweddi Dros Gymru

    • Bod Yn Rhydd And Gwinllan A Roddwyd.
    • SAIN.
    • 6.

Darllediad

  • Llun 17 Awst 2020 11:00