Y Cylch Sialc
Nia Roberts yn cwrdd 芒 rhai o gast a chriw Y Cylch Sialc, cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. A look at the arts in Wales and beyond.
Y Cylch Sialc gan Bertolt Brecht yw cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. Mae Nia yn ymweld efo鈥檙 ystafell ymarfer yng Nghaerfyrddin i sgwrsio efo鈥檙 cyfarwyddwr Sara Bickerton, y digrifwr Noel James a鈥檙 gantores Gwenno Saunders sef dau o鈥檙 perfformwyr sy鈥檔 ymddangos mewn drama am y tro cyntaf. Hefyd mae Mererid Hopwood yn trafod y broses o drosi鈥檙 sgript o鈥檙 Almaeneg gwreiddiol ac yn egluro sut mae neges y ddrama yn parhau i fod yn berthnasol i gynulleidfaoedd yng Nghymru heddiw.
Sylw hefyd i nofel ddiweddaraf yr awdur Lloyd Jones. Mae Fflur yn rhaghanes i鈥檞 nofel ddystopaidd Y D诺r a gyhoeddwyd yn 2009 ac mae鈥檔 cynnig portread o fywyd a chariad mewn oes oedd yn llawer mwy syml.
Hefyd mae鈥檙 llenor Meg Elis yn ceisio egluro'r pleser sydd i鈥檞 gael wrth chwilota am drysorau mewn siop lyfrau ail-law.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Mer 2 Hyd 2019 12:30成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru
- Sul 6 Hyd 2019 17:00成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru