Ysgolion Cyfrwng Cymraeg Caerdydd
Golwg ar y pryderon ynghylch prinder llefydd gwag yn ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerdydd. A look at concerns about the lack of capacity in Cardiff's Welsh medium schools.
Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dweud wrth Manylu ei fod yn disgwyl y bydd pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn agor yn y ddinas o fewn degawd, ac y bydd Ysgol Plasmawr yn ehangu o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Daw sylwadau'r Cynghorydd Huw Thomas wedi galwadau gan ymgyrchwyr a gwleidyddion am fynd i'r afael 芒 phrinder llefydd.
Ar hyn o bryd, mae gan ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg Caerdydd 600 o lefydd ar gyfer disgyblion blwyddyn saith, ond mae ymchwil ar gyfer y rhaglen hon yn dangos na fydd hynny'n ddigon erbyn Medi 2020.
Mae'r ystadegau hefyd yn dangos cynnydd o oddeutu 16% yn nifer y disgyblion sy'n dechrau mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn y chwe blynedd diwethaf, sy'n debygol o arwain at alwadau pellach am lefydd yn yr ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Iau 14 Maw 2019 12:30成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru
- Sul 17 Maw 2019 16:00成人快手 Radio Cymru 2 & 成人快手 Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.