Main content

Lena Charles

Beti George yn sgwrsio 芒 Lena Charles, wedi iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed. Beti George chats to centenarian Lena Charles.

Hel atgofion am ganrif o fywyd mae gwestai Beti George yn y rhaglen hon.

Cafodd Lena Charles ei magu ym Mlaengarw, wedi i'r teulu symud yno o Benmachno i weithio'n y pyllau glo.

Yr olaf ond un o dri ar ddeg o blant, bu farw ei thad pan oedd hi'n ddyflwydd oed, ond fe ailbriododd ei mam. Roedd ei llysdad, Dafydd Hughes, yn ddylanwad pwysig. Diolch iddo fe, mae Lena yn adroddwraig o fri, fel y clywn ni yn y rhaglen.

Mae'n s么n wrth Beti am ei magwraeth ym Mlaengarw, gan gynnwys bywyd y cartref a dylanwad y capel, am Streic 1926, ac am weithio mewn ffatri arfau'n ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae Lena hefyd wedi gweld sawl newid yn yr ardal yn ystod ei chan mlynedd o fywyd.

Ar gael nawr

47 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 19 Ebr 2018 18:00

Darllediadau

  • Sul 15 Ebr 2018 12:00
  • Iau 19 Ebr 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad