Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 成人快手 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Prydain ac America

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod dyfodol y berthynas rhwng Prydain ac America. Vaughan Roderick and guests discuss the future of Britain and America's relationship.

Wrth i'r Arlywydd Trump ymgartrefu yn y T欧 Gwyn, mae Theresa May ar ymweliad 芒 Washington i drafod y berthynas rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau. Sut berthynas fydd hi, tybed, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit ac arwyddion cryf mai sicrhau buddiannau America fydd y flaenoriaeth i Mr Trump?

Mae Brexit yn dal yn bwnc llosg yr ochr yma i F么r Iwerydd hefyd, ac mae'n dipyn o gur pen i'r Blaid Lafur yn San Steffan. Fel prif wrthwynebwyr y Ceidwadwyr, a yw hi'n ddyletswydd arnyn nhw i gynrychioli'r miliynau a bleidleisiodd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, neu gydsynio 芒'r broses ffurfiol o adael?

Ac wedi i'r darlledwr Gary Lineker alw am wahardd gwaith cartref oherwydd y straen ar blant a'u rhieni, dyma ofyn i'r panel am eu barn nhw.

Jonathan Jones, Aled Roberts a Manon Edwards Ahir sy'n ymuno 芒 Vaughan Roderick.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 27 Ion 2017 12:05

Darllediad

  • Gwen 27 Ion 2017 12:05

Podlediad