Bedri
Stori Bedri, bachgen bach a gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci. The story of Bedri and his adoptive mother, who help refugees from his homeland of Syria.
Wedi ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Syria a Thwrci, mae Bedri Lewis bellach 芒'i draed yn gadarn ar dir Cymru ers rhai blynyddoedd.
Penrhyndeudraeth ydi cartref Bedri erbyn hyn, ond 诺yr neb yn iawn ym mha wlad y cafodd ei eni. Un peth mae ei fam fabwysiedig, Carren Lewis, yn ei wybod yn iawn ydi mai mewn cartref plant amddifaid yn Diyarbak谋r yn Nhwrci y daeth hi o hyd iddo. Hogan fach dlws fel dol a ddaliodd ei sylw, ond roedd ei mham Ann wedi gwirioni ar fachgen bach gyda gw锚n anferth, brech yr ieir, trwyn budr a llygaid croes. Pan gafodd Carren wybod nad oedd mabwysiadu'r ddau yn opsiwn, roedd yn rhaid dewis. Rhyw bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Bedri'n 10 oed.
Dydi Carren ddim wedi celu dim rhagddo. Wrth i blant eraill glywed straeon dychmygol gyda'r nos, roedd Bedri'n clywed am ei hanes mewn cartref yn Nhwrci. Mae bellach yn gwybod am ddyddiau cynharaf ei fywyd hefyd, yn cael ei ddarganfod yn fabi gan hogyn a glywodd s诺n cath ar ei ffordd i'r ysgol. Does neb yn gwybod dim am ei fam, ond mae Carren yn dweud wrtho am gofio a gwerthfawrogi mai i'w fam y mae'r diolch ei fod yma o gwbl. Mae Carren ei hun yn meddwl amdani'n aml, ac yn meddwl am yr hyn a allai fod wedi digwydd i Bedri pe na bai wedi dod i Gymru.
Yn wahanol i Bedri, mae miloedd ar filoedd o blant bach eraill y Dwyrain Canol yn ddigartref, ac mae Bedri'n gwybod hynny'n iawn. Mae'n ymwybodol o'r sefyllfa yn Syria, ac yn frwd am geisio helpu'r ffoaduriaid yno. Ond fel y clywn ni'n y rhaglen hon, mae annog eraill i helpu yn medru bod yn dalcen caled.
Dyma stori ryfeddol am deulu rhyfeddol, ac yn ganolbwynt i'r teulu hwnnw mae Bedri Lewis.
Darllediad diwethaf
Clipiau
-
Cefnogi Ffoaduriaid - Gwenlli Haf - CEFN
Hyd: 10:11
-
Sgwrs gyda'r Tad Deiniol
Hyd: 02:25
-
Stori Bedri
Hyd: 00:57
Darllediad
- Llun 19 Rhag 2016 12:30成人快手 Radio Cymru