Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ³ÉÈË¿ìÊÖ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Her Plant Mewn Angen: Llanilar i Fryncrug

Cyn seiclo o Lanilar i Fryncrug, mae Aled yn cael cwmni tri sy'n gwybod mwy na fo am feicio. Day three of Aled's cycling challenge takes him from Llanilar to Bryncrug.

Ar drydydd diwrnod ei her fawr er budd Plant Mewn Angen, mae Aled yn cael cwmni tri sy'n gwybod mwy na fo am feicio. Yn un o feicwyr brwd yr ardal, mae Nia Peris wedi cytunio i fod yn gwmni iddo am gyfnod wrth i'r daith o'r de i'r gogledd barhau. Ac mae Shannon Haird a Griff Lewis, y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, yn bencampwyr ifanc. Oes ganddyn nhw gyngor i Aled, tybed?

Mae'r ffotograffydd Keith Morris hefyd yn galw yn y stiwdio. Sut mae tynnu lluniau da o bobl yn beicio, yn enwedig mewn tywydd garw fel mae Aled wedi'i brofi?

Hanesion am gymeriadau'r ardal sydd gan Lyn Ebenezer i ni, ac mae 'na gyfle i edrych ymlaen at gyfres newydd arall ar S4C yng nghwmni Iestyn Leyshon. Mae Iestyn yn un o werthwyr tai Ar Werth, cyfres sy'n addo codi'r clawr ar fyd gwerthwyr tai yng Nghymru.

Mae'r daith yn parhau yn syth wedi'r rhaglen, ac yn mynd ag Aled o Lanilar i Fryncrug.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 16 Tach 2016 08:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Heather Jones

    Medi A Ddaw

    • Enaid - Heather Jones.
    • Sain.
  • Mei Emrys

    Brenhines Y Llyn Du (Trac Yr Wythnos)

    • Brenhines Y Llyn Du.
    • Nfi.
  • Huw Chiswell

    Rho Un I Mi

    • Rhywun Yn Gadael.
    • Sain.
  • Yr Eira

    Elin

    • Sesiwn C2.
  • Tebot Piws

    Lleucu Llwyd

    • Y Gore a'r Gwaetha - Tebot Piws.
    • Sain.
  • Yws Gwynedd

    Sebona Fi

    • Codi Cysgu.
    • Cosh.
  • Sera

    Oes Yn Ôl

    • Can I Gymru 2015.
  • Ginge A Cello Boi

    Cariad Cynnes

  • Geraint Jarman

    Helo Hiraeth

    • Helo Hiraeth.
    • Ankst.
  • Bendith

    Angel

    • Bendith.
    • Agati Records.
  • Gildas

    Y Gusan Gyntaf

    • Sgwennu Stori.
    • Sbrigyn Ymborth.

Darllediad

  • Mer 16 Tach 2016 08:30