Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 成人快手 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Difa Moch Daear?

Faint o groeso sydd i ddogfen ymgynghori newydd Llywodraeth Cymru ar reoli'r dici芒u mewn gwartheg? Reaction to the Welsh government's new consultation document on eradicating TB.

Ychydig wythnosau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dogfen ymgynghorol newydd, dyma olwg ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn difa moch daear i geisio rheoli'r dici芒u mewn gwartheg.

Mae un o gyn-lywyddion Cymdeithas Filfeddygol y BVA yng Nghymru yn siomedig nad ydi'r hawl i ddal a saethu moch daear yn rhan o'r ddogfen, er bod Peter Harlech Jones yn tanlinellu fod angen nifer o bolis茂au amrywiol i fynd i'r afael 芒'r clwy.

Tebyg ydi barn teulu Penlan ger Maenclochog yn Sir Benfro, sydd wedi colli bron i hanner cant o wartheg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y dici芒u.

Ond mae safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, yn wahanol. Dydi hi ddim wedi'i darbwyllo mai dilyn yr un polisi 芒 Lloegr ydi'r ffordd ymlaen, sef rhoi trwyddedau i ffermwyr saethu moch daear mewn ardaloedd penodol. Yn lle hynny, mae'n argymell rhannu Cymru'n dri rhanbarth yn dibynnu ar ddifrifoldeb y dici芒u, a chyflwyno polis茂au gwahanol yn y tair ardal.

Yn 么l Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, does dim tystiolaeth p'un bynnag mai moch daear sydd ar fai am y cynnydd yn nifer y gwartheg sy'n diodde'r dici芒u.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 13 Tach 2016 16:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Manylu

Darllediadau

  • Iau 10 Tach 2016 12:30
  • Sul 13 Tach 2016 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad