Rheoli’r Wyddfa
A ddylai'r hanner miliwn o bobol sy'n cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn dalu tuag at edrych ar ôl y mynydd? Should walkers who climb Snowdon pay towards the mountain's upkeep?
Mae dros hanner miliwn o bobl yn cyrraedd brig yr Wyddfa bob blwyddyn. Dyma'r mynydd mwyaf poblogaidd yn Mhrydain – dau gan mil yn fwy na sy’n troedi Scafell Pike a Ben Nevis gyda’u gilydd – ac mae’r nifer yn cynyddu.
Mae'r difrod mae nhw’n ei achosi yn bwnc llosg a'r cynnydd blynyddol yn y niferoedd sy'n dod i'r ardal yn fêl i rai a gwenwyn i eraill.
Gyda dyfodol y mynydd yn effeithio ar ffermwyr, caffis, cwmni trenau a degau o fusnesau mae ei reoli yn fwy o sialens na'i gerdded erbyn hyn ac mae’r holl beth wedi mynd yn rhy bell yn ol rhai sy’n galw ar I bobl dalu am y fraint.
Yn digwydd bod mae "Partneriaeth Yr Wyddfa" – sef cyfuniad o grwpiau, y Parc Cenedlaethol, asiantaethau a’r gymuned leol - yn anelu i godi arian tuag at gostau prosiectau cadwraeth lleol a chael ymwelwyr i gyfranu mwy i’r ardal.
Un o'r prif bethau mae'r Bartneriaeth wedi cytuno arno yn barod ydy i beilotio cynllun "Visitor Giving" o'r enw Rhodd Eryri fydd yn dibynnu ar fusnesau lleol i annog - ond nid gorfodi - eu cwsmeriaid i gyfrannu. Mae nhw hefyd am ofyn i gwmniau sydd yn trefnu rasus a digwyddiadau yn yr ardal i gyfranu am eu cynnal o hyn ymlaen.
Bydd yr arian sy’n cael ei gasglu yn ystod y cynllun peilot deunaw mis yn mynd tuag at adfer rhan o lwybr Llanberis i’r gopa’r Wyddfa, datblygu llwybrau o gwmpas troed y mynydd, ac hefyd tuag at prosiect i addysgu pobol ifanc am sgiliau traddodiadol cefn gwlad. Os yn llwyddiannus, y gobaith ydi creu cynllun parhaol ar draws Eryri.
Cymysg ydy'r ymateb gan fusnesau i'r syniad o ofyn i ymwelwyr roi rhodd – a Manylu sydd yn holi faint o effaith fydd hyn yn ei gael ar dwristiaeth yr ardal.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
-
Rheoli'r Wyddfa
Hyd: 00:38
Darllediadau
- Iau 19 Mai 2016 12:30³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru
- Sul 22 Mai 2016 16:00³ÉÈË¿ìÊÖ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.