Dementia - diffyg gofal?
Profiad teulu o Wynedd wrth frwydro i gael gwell gofal i'w tad sydd 芒 dementia. Hear about a Gwynedd family's battle to get better care for their father, who has dementia.
Mi wnaeth Melfyn Thomas a Wendy Crisp gwyno droeon am safon y gofal a gafodd eu tad 88 mlwydd oed ym Mhlas y Bryn Bontnewydd ger Caernarfon. Oherwydd y cwynion mae nhw'n deud y cawsant lythyr gan berchennog y safle y llynedd yn gofyn iddyn nw ganfod cartref arall ar gyfer William Thomas. Mae'r cartref wedi bod yn destun tri arolygiad eleni gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol a bellach does dim hawl ganddynt i dderbyn rhagor o bobl oherwydd y pryderon am y ddarpariaeth yno a'r ffaith iddyn nhw fethu cydymffurfio 芒 dros 12 o reoliadau gwahanol.
Mewn llythyr at y teulu dywedodd y perchennog Maurice Browne ei bod hi'n amlwg nad oedd y cartref wedi cyrraedd disgwyliadau'r teulu ac mai dyna pam roedd yn gofyn iddyn nhw ganfod cartref gofal arall ar gyfer eu tad.
Mi wnaeth Manylu hefyd gysylltu 芒'r cartref i ofyn am ymateb i gwynion y teulu a pham fod William Thomas wedi cael cais i adael y cartref. Mi wnaetho nhw ddeud eu bod nhw wedi ymdrin 芒 phob cwyn gan y teulu yn drwyadl a hefyd cwynion gan rai aelodau o staff am ymddygiad rhai aelodau o deulu Mr. Thomas. Doedd na ddim eglurhad pam fod Mr Thomas wedi cael cais i adael.
Cyflwynydd y rhaglen ydi Nia Thomas.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Melfyn Thomas yn trafod ei bryderon
Hyd: 00:36
Darllediadau
- Iau 26 Tach 2015 12:31成人快手 Radio Cymru
- Sul 29 Tach 2015 13:30成人快手 Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.