Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ³ÉÈË¿ìÊÖ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Troedio'n ofalus

A ydi llwybrau cyhoeddus dan fygythiad gan doriadau, drain a thirfeddianwyr? Is the public footpath network under threat from budget cuts, overgrowth and landowners?

Manylu sydd ar grwydr ar hyd llwybrau cyhoeddus Cymru i glywed pryderon am eu dyfodol.
Gyda miloedd o filltiroedd o lwybrau cyhoeddus yng Nghymru, mae'n sialens i'r awdurdodau lleol eu cadw nhw i gyd yn agored.
Ond mae rhoi rhwydd hynt i gerddwyr grwydro yng nghefn gwlad yn gallu creu tensiwn - a mwy o gostau i'r awdurdodau ddatrys unrhyw anghydfod.
Gyda rhai cynghorau yn ofni cwtogi eu gwariant ar gynnal llwybrau cyhoeddus oherwydd toriadau i’w cyllid, mae llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu'r hawl i grwydro.
Mae’r rhaglen yn clywed am criw sy’n dweud eu bod nhw’n cael eu rhwystro rhag defnyddio llwybyr ar hyd Afon Mawddach gan berchnogion tai cyfagos. Mae’r rhaglen hefyd yn ymweld â llwybr arfordir ym Mhen Llŷn sydd wedi cau – enghraifft o’r cyngor sir yn methu yn ei dyletswyddau statudol yn ôl y cynghorydd lleol.
Ond gyda arian yn brin, mae’n rhaid i’r awdurdodau ganfod arbedion yn rhywle.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Tach 2015 13:30

Darllediadau

  • Iau 12 Tach 2015 12:31
  • Sul 15 Tach 2015 13:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad