Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 成人快手 iPlayer Radio ar hyn o bryd

"Y Thalidomide Cudd"?

Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.

Mae galw am godi ymwybyddiaeth am sgil effeithiau cyffur a roddwyd i ferched beichiog ynghanol y ganrif ddiwethaf. Mae Diethylsbildestrol - neu "DES" - yn dal i effeithio ar unigolion hyd heddiw. Yn 么l rhai, dyma'r "thalidomide" cudd. Cudd am nad oes neb yn gweld ei sgil effeithiau, a chudd am nad oes fawr neb yn gwybod amdano.

Fe gafodd Dafydd Roberts ei eni yn mil naw pedwar pump, yn Llanfair, Harlech - y trydydd plentyn - ond yr unig un gafodd ei eni yn fyw. Yn 么l ei fam roedd y diolch am hynny i gyffur o'r enw Diethyl-Sbildestrol - DES - yr oestrogen synthetig cyntaf oedd yn cael ei farchnata fel cyffur gwyrthiol a fyddai'n osgoi erthyliad naturiol. Roedd cryfder y d么s dyddiol a roddwyd i rai mamau yr un faint a buasai cymeryd 700 o dabledi atal-cenhedlu heddiw.

"Dwi'n cofio mam yn deud ei bod yn cael injections pan yn fy nisgwyl hi, ac mi ddaru nhw y tric i fy nghael i, medda him, achos oedd hi wedi colli dau blentyn arall yn barod - yn stillbirth," meddai Mr Roberts.

Ond yn nwy fil ac un, pan yn bumdeg chwech oed, fe gafodd ddeiagnosis o diwmor ar ei chwaren - y pituitary gland. Cafodd lawdriniaeth a radiotherapi i'w drin. Bellach mae o'n credu bod ei diwmor yn gysylltiedig 芒'r cyffur gymerodd ei fam.

"Mae Diethylsbildestrol wedi cael ei ddosbarthu yn endocrine disruptor, sy鈥檔 golygu ei fod yn amharu ar glandiau'r corff sydd yn cynhyrchu hormonau. Mae'r pituitary yn un o brif glandiau'r corff, sydd yn cynhyrchu hormonau, ac yn cael ei alw yn Saesneg y 鈥淢aster Gland.鈥 Mae鈥檙 cyffur yn medru effeithio arno fo," meddai.

Ar ddechrau'r saithdegau codwyd amheuon am y cyffur ar 么l i ymchwil ddangos ei fod yn creu canser y groth neu'r fagina i rai o blant y mamau oedd wedi ei gymeryd. O ganlyniad fe gafodd meddygon eu cynghori i beidio a'i roi i ferched beichiog. Ar ben hynny roedd ymchwil oedd wedi ei gyhoeddi bron 20 mlynedd ynghynt wedi profi nad oedd DES yn gwneud yr hyn oedd i fod i'w wneud - sef lleihau'r risg o erthyliad naturiol. Y drafferth i Dafydd Roberts ydy nad oes ymchwil wedi ei wneud i weld a ydy DES yn gallu effeithio ar y chwarren bit岷卛dol, lle gafodd o ei diwmor. Er hynny mae tystiolaeth bod DES yn effeithio ar y system endocrinaidd - ac mae'r chwarren bit岷卛dol yn perthyn i'r system honno. Ynghyd 芒 galw am ymchwil pellach ar effaith DES ar y chwaren bit岷卛dol, mae o'n flin nad oes mwy o ymwybyddiaeth am yr adroddiadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Manylu, ar 成人快手 Radio Cymru gyda Anna-Marie Robinson dydd Iau, Mehefin 19 am 12.30 a dydd Llun Mehefin 23, am 18.55.

30 o funudau

Darllediadau

  • Iau 19 Meh 2014 12:31
  • Llun 23 Meh 2014 18:55

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad