Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 成人快手 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gofal Gydag Urddas?

Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.

Wrth i'r boblogaeth heneiddio, ydi'r oedranus yn cael gofal teg ar ol mynd i'r ysbyty?

Bydd Manylu'r wythnos hon yn codi'r llen ar bryderon am ofal i'r henoed o fewn y gwasanaeth iechyd.

Pryderon fel rhai Gwenfair Williams, o Gaernarfon, sy'n dweud bod diffyg gwelyau yn yr ysbyty wedi arwain i'r staff meddygol geisio rhyddhau ei thad yn llawer rhy gynnar pan oedd niwmonia arno, ac yntau angen cymorth drip ac ocsigen y noson cyn iddyn nhw geisio ei yrru gartref.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Comisiynydd Pobol Hyn Cymru Sarah Rochira y byddai'n cadw golwg ar y sefyllfa dros y ddeunaw mis nesaf i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud yn dilyn adroddiad beirniadol gyhoeddwyd gan y comisiwn yn 2011.

Ond gyda'r boblogaeth yn heneiddio, ac wrth i deuluoedd fynd yn fwy gwasgaredig - sut mae sicrhau gofal teg i'r oedrannus?

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 13 Ion 2013 18:30

Darllediadau

  • Mer 9 Ion 2013 14:04
  • Sul 13 Ion 2013 18:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad