Main content
Y Gronfa Lawnsio - 2023
Telerau ac Amodau Y Gronfa Lawnsio
Y dyddiad agoriadol ar gyfer Lansio fydd Dydd Mercher Medi 25, 2024
Bydd dyddiad cau ar gyfer lansio fydd canol nos Dydd Mercher Hydref 30, 2024
- Nodwch, na fydd artistiaid llwyddiannus dwy rownd ddiwethaf y Gronfa Lansio yn gymwys i wneud cais am nawdd yn 2024.
- Mae’r Gronfa Lansio ar gyfer datblygu artistiaid sydd ar ddechrau eu taith gerddorol. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rho ii artistiaid a bandiau sydd heb dderbyn nawdd gan gronfeydd eraill fel Cronfa Cyflymu PRS neu Momentwm sy’n gwobrwyo artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf.
- Os ydych yn cyflwyno cais i Lansio ar ran artist neu band, mae’n rhaid bod yr unigolyn enwebedig wedi derbyn caniatâd gan y band neu artist i weithredu ar eu rhan, a bod pob aelod yn cytuno i fod yn rhwym yn gyfreithiol i’r telerau ac amodau.
- Drwy gyflwyno cais, rydych yn cadarnhau nad ydych chi, nac unrhyw aelod o’r artist neu band rydych yn ei gynrychioli, o dan 18 oed pan fyddwch yn cyflwyno’r cais.
- Mae’n rhaid bod artistiaid unigol yn byw yng Nghymru, a bod ganddynt gyfeiriad dilys yng Nghymru am o leiaf 6 mis cyn y dyddiad cyflwyno cais. Mae’n rhaid bod nifer sylweddol o aelodau bandiau yn byw yng Nghymru, a bod ganddynt gyfeiriad dilys yng Nghymru am o leiaf 6 mis cyn y dyddiad cyflwyno cais. Rhaid i labeli fod yng Nghymru a rhaid i'r artist / bandiau buddiol hyn fodloni'r un meini prawf â phe byddent yn gwneud cais eu hunain.
- Bydd myfyrwyr sy’n byw mewn cyfeiriad dros dro, ond sydd â chyfeiriad cartref parhaol yng Nghymru, yn parhau i gael eu hystyried yn gymwys, ond mae’n rhaid iddynt allu profi statws myfyriwr.Ni fydd artistiaid/bandiau yn gymwys i wneud cais os ydynt wedi llofnodi i label recordio mawr cyn dyddiad cyflwyno’r cais (a fydd, at y dibenion hyn, yn unrhyw label y mae unrhyw un o’r cwmnïau recordio mawr yn berchen arnynt, yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: Sony Music Entertainment, Warner Music Group, Universal Music Group a’u his-gwmnïau)
- Bydd Artistiaid / bandiau sydd wedi rhyddhau eu deunydd eu hunain mewn fformat corfforol neu lawrlwytho, neu ar label annibynnol bach, yn gymwys i wneud cais, ar yr amod nad yw eu label recordio annibynnol, nac unrhyw drydydd parti arall, wedi cyflwyno unrhyw gyfyngiadau arnynt hwy neu eu cerddoriaeth sy’n golygu na allant gydymffurfio â’r telerau ac amodau ar gyfer cyflwyno cais.
- Ni fydd staff nac ymddiriedolwyr 成人快手 Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, aelodau o banel dethol Lansio nac eu perthnasau agos yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun hwn. Mae ‘agos’ yn golygu rhieni, brodyr neu chwiorydd, priod/partner neu blant.
- Mae pob ymgeisydd yn cadarnhau y gall y 成人快手 grybwyll, arddangos a defnyddio enw, delwedd a thebygrwydd unigolyn neu fand, mewn cysylltiad â’r cynllun ac yn cydnabod y gwneir hyn yn ôl disgresiwn golygyddol y 成人快手.
- Efallai y gofynnir am brawf oedran, hunaniaeth a chymhwyster gan artistiaid/pob aelod o fand. Pan fydd canllawiau’r 成人快手 yn mynnu hynny, gofynnir am ganiatâd rhiant neu warcheidwad.
- Os cynigir cyllid drwy Lansio; disgwylir i bob aelod unigol o fand/artistiaid lofnodi cytundeb yn dweud eu bod wedi deall y telerau ac amodau hyn, a’u bod yn cytuno i’w dilyn. Disgwylir iddynt hefyd gymryd rhan mewn gweithgarwch cyhoeddusrwydd, a gweithio gydag adran farchnata’r 成人快手.
- Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus lofnodi cytundeb ac esbonio sut maent wedi gwario’r arian ar ddiwedd y prosiect.
- Mae 成人快手 Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cadw’r hawl i ganslo, newid neu addasu amodau’r cynllun unrhyw amser, at ddibenion golygyddol, neu os bydd amodau y tu hwnt i’w rheolaeth hwy.
- Mae 成人快手 Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw artist/band ar unrhyw adeg o’r cynllun, os ydynt wedi torri’r Telerau ac Amodau hyn a/neu maent wedi ymddwyn yn sarhaus, neu os yw’r deunydd yn anghlywadwy ac na ellir ei ddarlledu.
- Bydd y Telerau ac Amodau hyn hefyd yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth, ac yn ddarostyngedig i feini prawf Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n cael eu hamlinellu yma.
- Mae’n rhaid i’r gwaith gwreiddiol sy’n cael ei gynhyrchu gan y bandiau/artistiaid fod yn addas i’w ddarlledu ar y radio (er enghraifft, mae’n rhaid i’r geiriau gydymffurfio â chanllawiau golygyddol y 成人快手). I gael gwybodaeth bellach am hyn ewch i http://www.bbc.co.uk/guidelines/editorialguidelines/
- Drwy ddarparu unrhyw ddeunydd i 成人快手 Cymru (yn cynnwys unrhyw destun, ffotograffau, gwaith graffig, fideo neu sain), mae ymgeiswyr Lansio yn cytuno i ganiatáu i’r 成人快手 ddefnyddio’r deunydd am ddim, mewn unrhyw ffordd y dymuna (yn cynnwys ei addasu am resymau gweithredol neu olygyddol) ar gyfer unrhyw un o wasanaethau’r 成人快手 mewn unrhyw gyfrwng ar draws y byd (yn cynnwys ar safle’r 成人快手 sy’n cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr rhyngwladol).
- Efallai y bydd y 成人快手 hefyd yn rhannu’r deunydd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac, mewn rhai amgylchiadau, trydydd parti eraill y maent yn ymddiried ynddynt.
- Efallai y bydd angen i 成人快手 Cymru neu Gyngor Celfyddydau Cymru gysylltu â bandiau/artistiaid at ddibenion gweinyddol neu ddilysu, mewn cysylltiad â’r deunydd neu brosiectau penodol. I gael manylion llawn pryd a sut y byddwn yn cysylltu â’r bandiau/artistiaid, gweler Polisi Preifatrwydd y 成人快手
- Os na fydd bandiau/artistiaid/labeli yn dymuno rhoi’r caniatâd uchod ar y telerau hyn, ni ddylent wneud cais i Lawsio
- Disgwylir i aelodau o banel penderfynu Lansio lofnodi datganiad o ddidueddrwydd.
- Mae 成人快手 Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cadw’r hawl i ganslo neu addasu’r cynllun ar unrhyw adeg, os bydd yn ystyried bod hynny’n anghenraid golygyddol neu os bydd amgylchiadau, sydd wedi newid y tu hwnt i’w rheolaeth, yn galw am gamau o’r fath.
- Bydd y cynllun hwn yn cael ei weinyddu gan 成人快手 Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n ddarostyngedig i gyfraith Cymru a Lloegr.
- Yn anffodus, oherwydd nifer uchel y ceisiadau rydym ni’n eu derbyn, ni fyddwn ni’n gallu darparu adborth unigol ar geisiadau aflwyddiannus.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yngl欧n â Lansio, anfonwch e-bost i: horizons@bbc.co.uk