Main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cystadleuaeth Stori Fer Aled Hughes i Bobl Ifanc

Beth yw hysbysiad preifatrwydd?

Mae Hysbysiad Preifatrwydd yn dweud wrthych pa ddata personol mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn ei gasglu amdanoch chi, sut rydyn ni’n ei ddefnyddio a’ch hawliau cyfreithiol. Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi, fel eich enw, eich cyfeiriad neu eich llun. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i gael ei ddarllen gan blant a phobl ifanc, ond efallai y byddwch chi am ei ddarllen gyda’ch rhiant neu warcheidwad.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Fyddech chi'n hoffi i’ch stori fer Gymraeg gael ei darllen ar raglen radio Aled Hughes?

Gall eich athro anfon eich stori atom ar gyfer Cystadleuaeth Stori Fer Aled Hughes!

Os bydd eich stori yn ennill y gystadleuaeth ac yn cael ei darllen ar y radio, bydd hynny yn golygu y bydd ar gael ar-lein a/neu ar-alw. Efallai y bydd yn cael ei defnyddio eto mewn darllediad yn y dyfodol, neu yn cael sylw ar sianelau cyfryngau cymdeithasol y ³ÉÈË¿ìÊÖ.

I gael mwy o wybodaeth am sut bydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr

Pam ydyn ni’n casglu eich data personol a sut rydyn ni’n ei ddefnyddio?

Byddwn yn casglu eich data personol dim ond pan fydd ei angen arnom i’n helpu i wneud ein gwaith neu i ddilyn y gyfraith.

Eich data personol

  • Enw cyntaf neu lys-enw
  • Oedran
  • Eich stori fer

Data personol eich athro
Rydym yn casglu data personol eich athro er mwyn gallu cysylltu â nhw am y straeon maent wedi eu hanfon i mewn:

  • Enw Llawn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Enw’r ysgol

Pwy sy’n gofalu am eich data personol?

Y ³ÉÈË¿ìÊÖ yw rheolydd data eich data personol. Rheolwr data sy’n gyfrifol am y data personol sy’n cael ei gasglu amdanoch chi.

Rydyn ni wedi penodi Swyddog Diogelu Data; mae’r unigolyn hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y mae’r gyfraith yn dweud y dylem ei wneud. Os ydych chi eisiau gofyn unrhyw gwestiynau am y data personol rydyn ni’n ei gasglu, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn DataProtection.Officer@bbc.co.uk

Y rheolau y mae’n rhaid i ni eu dilyn pan fyddwn yn casglu eich data personol

Mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn dilyn y rheolau diogelu data pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio eich data personol. Y rheol rydyn ni’n ei defnyddio i gasglu eich data personol ar gyfer y gystadleuaeth hon yw “tasg gyhoeddus”. Rydyn ni’n defnyddio’r rheol hon oherwydd bod y ³ÉÈË¿ìÊÖ wedi cael ei greu i hysbysu, addysgu a diddanu, ac mae cystadlaethau fel yr un rydych chi’n cymryd rhan ynddi yn ein helpu ni i wneud hynny.

Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gadw data personol enillwyr (a’r athro) fel ein bod yn gallu profi bod y gystadleuaeth wedi bod yn deg.

A fydd eich data personol yn cael ei rannu?

Pan fydd yn rhaid i ni rannu eich gwybodaeth â phobl eraill, ni fyddwn ond yn ei rhannu er mwyn i ni allu gwneud ein gwaith neu pan fydd y gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni wneud hynny. Pan fydd eich data personol yn cael ei rannu â rhywun arall, mae’n rhaid iddyn nhw ei gadw’n ddiogel a’i ddefnyddio mewn ffordd y mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn dweud wrthyn nhw y gallan nhw ei ddefnyddio.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich data personol?

Os na fyddwch yn ennill, byddwn yn cadw eich data personol chi a’ch athro hyd at un (1) mis ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben.

Os bydd eich stori yn cael ei ddefnyddio i’w ddarlledu, bydd yn cael ei gadw am byth gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Byddwn yn cadw data personol arall amdanoch chi a’ch athro am ddwy (2) flynedd am resymau cyfreithiol fel y gallwn brofi bod y gystadleuaeth wedi bod yn deg.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi a’ch rieni/gwarcheidwaid yr hawl o dan y gyfraith diogelu data i’r pethau canlynol:

  • Eich hysbysu am sut rydyn ni’n defnyddio eich data personol.
  • Gofyn am gael gweld y data personol sydd gennym.
  • Gofyn i ni newid data personol sy’n anghywir yn eich barn chi.
  • Gofyn i ni dynnu data personol pan nad oes ei angen mwyach.
  • Gofyn i ni ddefnyddio eich data personol mewn ffyrdd penodol yn unig.
  • Dweud wrthym nad ydych chi am i’ch data personol gael ei brosesu.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data ar gael ar ein gwefan.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data

Os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y ³ÉÈË¿ìÊÖ yma: http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .

Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio eich data personol yn newid yn sylweddol.