Main content

Hysbysiad Preifatrwydd Radio Cymru 2

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y ³ÉÈË¿ìÊÖ wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni’n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Pan fyddwch chi’n rhyngweithio â Radio Cymru 2, mae’r data personol mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn ei gasglu yn cynnwys manylion personol fel eich enw a ble rydych chi’n dod, ond hefyd y safbwyntiau neu’r straeon personol rydych chi’n dymuno eu rhannu â ni. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn defnyddio eich data personol i gysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom am yr hyn rydych wedi’i anfon atom.

Os byddwch chi’n ymddangos ar yr awyr, gall hyn olygu bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio’ch cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich ymddangosiad ar yr awyr at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y ³ÉÈË¿ìÊÖ.

I gael gwybodaeth am sut bydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn prosesu eich data personol pan fyddwch chi’n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yma.

Pa ddata personol fydd y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?

Gan ddibynnu ar eich rhyngweithio â’r ³ÉÈË¿ìÊÖ, efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:

  • Enw
  • Manylion cyswllt (rhif ffôn, e-bost, neu enw cyfrif cyfryngau cymdeithasol)
  • Lleoliad
  • Eich barn, eich safbwyntiau ac unrhyw wybodaeth fywgraffyddol yr hoffech ei rhannu
  • Llun rydych chi’n ei anfon i ymddangos ar ein gwefan
  • Recordiad wedi’i ddarlledu o’ch llais, os ydych chi’n ymddangos ar yr awyr

Pwy yw’r Rheolydd Data?

Y ³ÉÈË¿ìÊÖ yw “rheolydd data” eich data personol. Mae hyn yn golygu mai’r ³ÉÈË¿ìÊÖ fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi’u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol

Mae’r ffordd y mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn prosesu’ch data personol wedi’i seilio’n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Rôl y ³ÉÈË¿ìÊÖ yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu. Mae hyn yn cyd-fynd â’i ymrwymiad diben cyhoeddus i “gynrychioli a phortreadu bywydau’r bobl sy'n byw yn y Deyrnas Unedig heddiw mewn modd dilys a chywir, a chodi ymwybyddiaeth o’r diwylliannau a’r safbwyntiau gwahanol sy’n creu ei chymdeithas.”

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol hefyd i brosesu eich data personol at ddibenion rheoleiddio a chydymffurfio.

Rhannu eich data personol

Mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Mae’r partneriaid hyn yn defnyddio’ch data personol ar ran y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn unig, ac nid yn annibynnol ar y ³ÉÈË¿ìÊÖ.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Os ydych chi’n ymddangos mewn darllediad gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ, neu mewn cynnwys cysylltiedig, bydd hyn yn cael ei gadw a’i archifo am byth.

Os na chaiff ei ddefnyddio ar gyfer darlledu, byddwn yn cadw eich data personol am hyd at chwe (6) mis ar gyfer galwadau ffôn; tair mlynedd (3) ar gyfer negeseuon e-bost; tri (3) mis ar gyfer negeseuon WhatsApp; naw deg (90) diwrnod ar gyfer negeseuon cyfryngau cymdeithasol a dwy (2) flynedd ar gyfer negeseuon testun.

Bydd dy ddata personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

Gallwch ofyn am gopi o’r data personol mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn ei storio amdanoch chi.

Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.

Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a allai roi’r hawl i’r ³ÉÈË¿ìÊÖ wrthod eich cais.

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.

Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi’n poeni am y ffordd mae’r ³ÉÈË¿ìÊÖ wedi delio â’ch data personol, gallwch godi’r pryder gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) .

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio’r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni’n defnyddio’ch data personol yn newid yn sylweddol.