Cynllun Pensiwn y 成人快手
Mae Cynllun Pensiwn y 成人快手 (y Cynllun) yn un o'r cynlluniau pensiwn galwedigaethol mwyaf yn y DU, gydag oddeutu 55,000 o aelodau a gwerth £15 biliwn o asedau. Mae’r Cynllun ar gau i aelodau newydd. Mae gan y 成人快手 drefniant pensiwn ar wahân o’r enw LifePlan, ac efallai y bydd staff presennol yn gymwys i gael rhagor o fanylion; ewch i .
Mae gan y Cynllun unig ymddiriedolwr corfforaethol, sef 成人快手 Pension Trust Ltd. Cyfeirir at gyfarwyddwyr yr ymddiriedolwr corfforaethol fel “Ymddiriedolwyr”. Mae 11 o Ymddiriedolwyr: tri Ymddiriedolwr annibynnol, pedwar Ymddiriedolwr a benodwyd gan y 成人快手 a phedwar Ymddiriedolwr a etholwyd gan aelodau.
Darpariaethau Cymraeg
Yn anffodus, nid yw’r Cynllun yn gallu darparu gohebiaeth Gymraeg i aelodau.
Mae safonau’r Gymraeg yn berthnasol i’r 成人快手 ei hun wrth iddo arfer ei swyddogaethau a chynnal ei fusnes, ond nid i gyrff annibynnol ar wahân fel y Cynllun, sy’n cyflawni ei weithgareddau ei hun, nac i’r 成人快手 pan fydd yn cynnal gweithgareddau ar ran corff annibynnol o’r fath.
Mae’r Ymddiriedolwyr wedi penodi’r 成人快手 i weinyddu’r Cynllun o dan delerau cytundeb gweinyddu. Felly, mae gohebiaeth a anfonir gan y 成人快手 yn y rôl honno yn gysylltiedig â gweithredu ei rôl a’i swyddogaethau fel yr Ymddiriedolwr, nid y 成人快手. Nid oes gofyniad felly i ohebiaeth a anfonir gan y 成人快手 ar ran y Cynllun fod ar gael yn Gymraeg.
Cymorth a chefnogaeth
Mae ein tîm mewnol ymroddedig yn gweinyddu’r Cynllun ac yn cefnogi swyddogaethau Adnoddau Dynol a Chyflogres y 成人快手 i wasanaethu trefniadau pensiwn eraill y 成人快手:
- Cynllun Pensiwn y 成人快手 – i gael cymorth a chefnogaeth, ffoniwch 0303 081 2848 neu anfonwch e-bost at mypension@bbc.co.uk
- LifePlan – Gweinyddir gan Aviva; i gael cymorth a chefnogaeth, ffoniwch 0345 601 3605 neu anfonwch e-bost at 成人快手LifePlan@aviva.com
- Cofrestru Awtomatig (NEST) – Os nad ydych chi mewn trefniant pensiwn cymwys, mae’n bosib y byddwch chi’n cael eich cofrestru’n awtomatig gyda’r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Cenedlaethol (NEST). Ewch i i gael rhagor o wybodaeth