 |
 |
 |
 |  |  © Ymddiriedolaeth Portmeirion |
|  |  |
Cyflwyniad i bentref Portmeirion, a'r pensaer Syr Clough Williams-Ellis |
 |
"Coleddwch y gorffennol, addurnwch y presennol, adeiladwch ar gyfer y dyfodol" Clough Williams-Ellis
Datblygwyd Portmeirion mewn dwy ran, 1926-39 a 1954-72, roedd y toriad yn ganlyniad i wasanaeth William-Ellis yn y rhyfel. Yn wreiddiol cafodd afael ar safle'r pentref presennol, yna'r tir y tu hwnt iddo, ac yna'r tiroedd o gwmpas Castell Deudraeth - a'r 'castell' ei hun. Y perchennog oedd ei ewythr, Syr Osmond Williams, disgynnydd i David Williams, twrnai a'r AS Rhyddfrydol cyntaf dros Feirionnydd. Mae'r castell gwir wedi hen gael ei ddinistrio a chaiff ei nodi gan gofnod ger gwaelod y Clochdy:
"Mae'r tor hwn, a adeiladwyd ym 1928 gan Clough Williams-Ellis, pensaer a phublican, yn cynnwys cerrig o'r castell o'r 12eg ganrif a oedd yn eiddo i'w gyndad Gryffyrd ap Cynan, Brenin Gogledd Cymru, a safai ar fryn 150 llathen i'r gorllewin. Cafodd ei chwalu tua 1869 gan Syr William Fothergill Cook, dyfeisydd y Telegraff Trydan, "yn lle bod yr adfeilion yn dod yn wybyddus gan ddenu ymwelwyr i'r fan." Felly mae'r sarhad hwn yn y 19eg ganrif i'r 12ed ganrif yn cael ei unioni'n gyfiawn yn yr 20ed ganrif"
Cafodd rhai adeiladau eu cynllunio gan Williams-Ellis, eraill eu tynnu i lawr, eu cludo a'u hailgodi o rannau eraill o'r DU. Mae Hen Golofnres Bryste nawr yn sefyll o flaen y Pantheon cromennog. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol yn Arnos Court, Bryste, ym 1760 gan William Reeve a chafodd ei ailgodi yn Portmeirion ym 1959. Cafodd Neuadd y Dref (1937-38) neu 'Neuadd Hercules' ei chynllunio i gartrefu nenfwd plastr 'fowt-faril' Jacobeaidd, gafodd ei achub o Neuadd Emral yn Sir Fflint ym 1933.
Caiff dros 45 o adeiladau unigryw eu disgrifio yn arweinlyfr cyfredol Portmeirion. Cafodd y dulliau adeiladu a'r manylion eu cadw mor syml â phosibl er mwyn i bob adeilad newydd gael ei gwblhau pan oedd y gwesty ar gau rhwng yr hydref a'r Pasg canlynol.
Mae gerddi isdrofannol a enwir 'Y Gwyllt' yn amgylchynu'r pentref, a gaiff ei hybu gan gynhesrwydd Llif y Gwlff, ac erbyn hyn cânt eu nodi'n ardal Cadwraeth.
Ewch am dro rhithwir o gwmpas y pentref yn ein oriel lluniau - cliciwch yma i weld mwy.
|
Print this page |
 |  |  |  |

Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|