Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cerddwr mewn cyflwr difrifol ar 么l cael ei daro gan gar ym M么n
Mae cerddwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Stoke wedi iddo gael ei daro gan gar ar gyrion Llangefni ar Ynys M么n yn ystod oriau m芒n bore Sul.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng y cerddwr - dyn lleol yn ei 40au - a char Ford Fusion glas ar y B4422 yn Rhostrehwfa am 01:13.
Dywedodd y llu fod y cerddwr wedi cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Stoke mewn ambiwlans awyr.
Ychwanegodd y llu ddydd Llun bod yr anafiadau yn rhai sydd o bosib yn perygl ei fywyd.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu 芒 nhw, neu unrhyw ddeunydd fideo allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad.
Dywedodd y Sarjant Daniel Rees o鈥檙 Uned Troseddau Ffyrdd: "Hoffem siarad ag unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd y B4422 yn Rhostrehwfa o gwmpas yr amser hwn ac a allai fod wedi gweld cerddwr neu sydd 芒 lluniau camera cerbyd.
"Ry'n ni hefyd yn annog unrhyw drigolion lleol a allai fod 芒 lluniau teledu cylch cyfyng i gysylltu 芒 ni.鈥