Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
David TC Davies yn ystyried swydd gydag AS dan ymchwiliad
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru mewn trafodaethau i weithio fel cynorthwyydd i Aelod o'r Senedd sy'n destun ymchwiliad gan yr heddlu.
Mae David TC Davies yn ystyried r么l flaenllaw o fewn t卯m yr aelod Ceidwadol o'r Senedd Laura Anne Jones.
Mae Ms Jones yn destun ymchwiliad i honiadau'n ymwneud 芒'i threuliau, ac yn gynharach y mis hwn fe ymddiheurodd am ddefnyddio iaith sarhaus mewn sgwrs ar WhatsApp.
Doedd Mr Davies ddim am wneud sylw am y mater. Mae Ms Jones wedi cael cais am sylw hefyd.
Roedd Mr Davies yn Aelod Seneddol Ceidwadol rhwng 2005 a mis Gorffennaf eleni, pan gollodd ei sedd yn yr etholiad cyffredinol.
Cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru gan gyn-Brif Weinidog y DU, Rishi Sunak.
Mae'r 成人快手 ar ddeall fod Mr Davies yn chwilio am swydd mewn mae y mae'n gyfarwydd ag ef.
Dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad i'r honiadau yn erbyn Ms Jones yn parhau.
Mae Ms Jones hefyd wedi ymddiheuro am yr iaith "annerbyniol" wnaeth hi ei ddefnyddio.