Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Menter gymdeithasol yn prynu becws ym Mhen Ll欧n
Mae menter gymunedol yn Ll欧n wedi llwyddo i brynu siop fara sydd wedi bod yno ers 80 mlynedd.
Ar 么l llwyddo i dderbyn grant o 拢350,000 gan Lywodraeth y DU drwy gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae cwmni Bro Antur Aelhaearn wedi gallu prynu Becws Glanrhyd.
Mae鈥檙 siop fara ym mhentref Llanaelhaearn yn cyflogi chwech o bobl.
Ym mis Mawrth, daeth newyddion y gallai鈥檙 becws gau ei drysau ar ddiwedd y mis, ond fe barhaodd y perchennog ar agor tan i griw yr Antur gymryd drosodd.
'Rhan annatod o'r pentref'
Dywedodd cadeirydd Antur Aelhaearn bod y 鈥渂ecws wedi bodoli yn Llanaelhaearn ers 80 mlynedd ac mae'n rhan annatod o wead y pentref.鈥
鈥淢ae'n adnodd pwysig i'r gymuned ac yn rhan o bwy ydym ni," meddai Ll欧r ap Rhisiart.
鈥淢ae鈥檙 cyfle i ddatblygu'r becws a chynnig cyflogaeth o hyd i bobl leol yn anrhydedd o鈥檙 mwyaf, ac rydym yn fwy na pharod i wynebu鈥檙 her mewn cyfnod economaidd anodd.鈥
O fewn y grant, mae arian i brynu system solar i鈥檙 becws er mwyn lleihau costau.
Fe fyddan nhw hefyd, mewn amser, yn cynnal cyrsiau pobi ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ddod i weld y system solar ar waith.
Mae dau d欧 gyda鈥檙 becws, ac wedi鈥檜 hadnewyddu, bwriad yr Antur yw eu rhentu i bobl leol.
Menter gymunedol gyntaf Prydain
Sefydlwyd yr Antur ym 1974 gan y diweddar Dr Carl Clowes mewn ymateb i ddiboblogi'r gymuned leol.
Antur Aelhaearn oedd y fenter gymunedol gyntaf ym Mhrydain.
Dros y 50 mlynedd, mae鈥檙 fenter wedi bod yn cefnogi sawl busnes, ffurfio mentrau newydd, darparu llu o weithgareddau cymunedol a darparu gofod ar gyfer hyfforddiant a lles cymunedol.
Mae'r fenter yn rhan o nifer o brosiectau cymunedol eraill, gan gynnwys siop newydd agorodd ym mis Mehefin ar safle hen feddygfa'r pentref.
Mae coedlan gymunedol - Coedlan Carl - hefyd wedi鈥檌 sefydlu ac mae 鈥榥a gaffi a gweithdy cymunedol sy'n cynnal digwyddiadau ac yn cefnogi saith o fusnesau lleol.
Mae gan yr antur hefyd gynlluniau i ddatblygu'r capel lleol yn gampfa gymunedol.