成人快手

Mam methu cofrestru ei babi mewn meddygfa yng Nghymru

Jordan Wynne a'i babiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jordan Wynne yn dweud ei bod hi methu cofrestru ei babi mewn meddygfa yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Sir y Fflint wedi gorfod mynd dros y ffin i Loegr er mwyn cofrestru ei babi mewn meddygfa, ar 么l methu cael lle yng Nghymru.

Derbyniodd Jordan Wynne, 31 o Saltney Ferry, ei gofal mamolaeth ym meddygfa Saltney, lle mae ei merch h欧n wedi鈥檌 chofrestru a lle mae hi ei hun wedi cofrestru ers yn blentyn.

Ond pan geisiodd gofrestru ei merch fach Stormi wedi ei genedigaeth bedair wythnos yn 么l, dywedwyd wrthi ei bod allan o ddalgylch y feddygfa ac nad oedd yn derbyn cleifion newydd.

Mae Ms Wynne yn byw ychydig dros filltir o'r feddygfa, ac mae wedi darganfod - yn dilyn newidiadau i ffiniau meddygfeydd - bod ei stryd hi a stryd arall gerllaw, tu allan i ddalgylch eu meddygfa leol bellach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae wedi bod yn gymaint o straen," meddai Jordan Wynne

Mae'n dweud nad yw'r un o'r meddygfeydd sydd ymhellach i ffwrdd yng Nglannau Dyfrdwy yn gallu cofrestru ei merch 'chwaith.

Mae Stormi wedi gorfod mynd yn 么l i'r ysbyty ddwywaith ers ei geni gyda gwahanol broblemau.

"Mae wedi bod yn gymaint o straen," meddai Ms Wynne.

"Dwi'n teimlo mai'r cyfan dwi wedi'i 'neud yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf ydy ceisio dod o hyd i feddyg i fy mabi, pan ddylwn i fod yn mwynhau bod gyda hi.

"Maen nhw i gyd wedi fy ngwrthod i."

'Angen ateb'

Mae Ms Wynne wedi troi at ei chynghorydd lleol, Jason Shallcross, a lwyddodd i gael lle i Stormi ym meddygfa Lache dros y ffin yng Nghaer.

Dywedodd Ms Wynne fod y feddygfa honno yn cydymdeimlo gyda'i sefyllfa, ond eu bod wedi dweud wrthi mai trefniant dros dro fydd hyn oherwydd nad yw'n byw yn eu dalgylch.

Mae trigolion eraill y ddwy stryd dan sylw - Stryd Ewart a Stryd y Gogledd, yn yr ardal a elwir yn Gyffordd Yr Wyddgrug - hefyd wedi cael eu heffeithio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Stormi ei geni bedair wythnos yn 么l

Dywedodd y Cynghorydd Shallcross a chynghorydd arall Saltney, Richard Lloyd, eu bod yn falch bod y sefyllfa wedi'i datrys am y tro, ond fod angen "ateb i'n trigolion sy'n byw yn ardal Cyffordd Yr Wyddgrug... y tu allan i ddalgylch meddygfa Saltney".

鈥淣id ydym am i unrhyw un o鈥檔 preswylwyr fynd trwy鈥檙 hyn y mae Jordan a鈥檌 theulu wedi鈥檌 brofi wrth geisio cofrestru eu babi newydd yn y feddygfa leol.鈥

Mae meddygfa Saltney, sy'n rhan o Bractis Meddygol y Stablau ym Mhenarl芒g, wedi cael cais i ymateb.

Dywedodd Lynne Joannou, Cyfarwyddwr Contractio a Chomisiynu Gofal Sylfaenol: "Mae'n ddrwg gennym glywed bod trigolion Saltney Ferry wedi cael problemau gyda chael mynediad at wasanaethau meddyg teulu lleol. Rydym yn adolygu'r sefyllfa yn yr ardal i geisio canfod sut rydym yn helpu i wella mynediad i drigolion lleol."

Mae GIG Cymru wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig