成人快手

Article: published on 8 Mehefin 2023

TrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Trefynwy

Oedi i gynllun addysg Gymraeg yn Nhrefynwy

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun i ddechrau cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i blant yn Nhrefynwy ym mis Medi wedi ei ohirio am flwyddyn.

Roedd hi鈥檔 fwriad gan Gyngor Sir Fynwy i agor dosbarth lloeren wedi ei chysylltu ag Ysgol Gymraeg y Ffin, Cil-y-Coed erbyn mis Medi eleni, cyn bwrw 鈥榤laen i agor ysgol cyfrwng Cymraeg yn Nhrefynwy ym Medi 2024.

Ond oherwydd trafferthion i ddenu athro, bu鈥檔 rhaid rhoi鈥檙 gorau i鈥檙 cynllun.

Ym mis Ionawr dywedodd cabinet Llafur y cyngor y byddai鈥檔 bwrw ymlaen 芒鈥檙 cynllun i agor, er mai dim ond tri disgybl oedd wedi cofrestru.

Fodd bynnag, mae鈥檙 cabinet wedi cytuno i gyhoeddi ei gynllun i agor ysgol newydd o fis Medi 2024 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Y disgwyl yw mai 拢3.6m fydd cost sefydlu鈥檙 ysgol newydd ar safle presennol Ysgol Gynradd Overmonnow. Llywodraeth Cymru sy鈥檔 ariannu鈥檙 cynllun.

Mewn cyfarfod o鈥檙 cabinet ddydd Mercher, fe ddywedodd y Cynghorydd Martyn Groucutt na fu Ysgol y Ffin yn llwyddiannus i benodi athro addas ar gyfer y dosbarth lloeren, ac mai ond ychydig o blant oedd wedi eu cofrestru.

鈥淥 edrych yn 么l, roedd hi鈥檔 rhy hwyr, i sefydlu egin ysgol erbyn mis Medi,鈥 dywedodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynghorydd Martyn Groucutt, sydd 芒 chyfrifoldeb am addysg ar Gabinet Cyngor Sir Fynwy

鈥淓r gwaethaf ymdrechion gorau Ysgol y Ffin i gael athro, ac ar 么l hysbysebu ddwywaith, ni ddenwyd yr un ymgeisydd addas ac mae ein plant wir yn haeddu鈥檙 addysg orau posib.鈥

Ychwanegodd fod y penderfyniad i roi鈥檙 gorau i鈥檙 cynllun ar gyfer dechrau Medi wedi cael ei drafod gyda鈥檙 fforwm addysg Gymraeg a 鈥済rwpiau Cymraeg lleol鈥, ac fe gytunwyd i ohirio'r cynllun am 12 mis.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i rieni yn Nhrefynwy a'r cyffiniau, sydd am i'w plant gael addysg Gymraeg, eu hanfon ar daith gron o 37 milltir i Ysgol Y Fenni, yn Y Fenni.

Mewn ymgynghoriad ar sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg i blant rhwng 3 ac 11 yr haf hwn, nododd 73% o鈥檙 rhai a ymatebodd eu bod yn cefnogi cael darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dref.

Cytunodd y cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar 19 Mehefin, yn nodi bwriad y cyngor sir i agor yr ysgol ym Medi 2024, a bydd cyfnod o 28 diwrnod gan y cyhoedd i gyflwyno eu hymateb.

Pynciau cysylltiedig