成人快手

Beth yw Ymchwiliad Covid-19 Cymru?

Nyrs yn rhoi prawf cofid Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn clywed tystiolaeth yng Nghymru o ddydd Mawrth 27 Chwefror i ddydd Iau 14 Mawrth.

Fe gafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

Tra yng Nghymru fe fydd yr ymchwiliad yn holi arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion am "benderfyniadau craidd" a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Fe fydd cyfle hefyd i deuluoedd a gollodd anwyliaid i rannu eu profiadau yn ystod y gwrandawiadau.

Pwy sy'n arwain yr ymchwiliad?

Mae'r ymchwiliad dan gadeiryddiaeth cyn-farnwr y Llys Ap锚l, y Farwnes Heather Hallett DBE.

Mae eisoes wedi cynnal gwrandawiadau yn Llundain a'r Alban.

Ffynhonnell y llun, PIRANHA PHOTOGRAPHY
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Farwnes Heather Hallett DBE wedi dweud bydd yr ymchwiliad yn "drylwyr ac yn deg"

Strwythur yr ymchwiliad

Er mwyn edrych ar wahanol agweddau mae'r ymchwiliad wedi'i rannu yn gyfres o fodiwlau.

Modiwl 1 - Gwydnwch a pharodrwydd y DU ar gyfer pandemig.

Fe gafodd gwrandawiadau'r modiwl hwn eu cynnal yn Llundain ym Mehefin a Gorffennaf 2023.

Pwrpas y modiwl yw asesu a oedd cynllun digonol ar gyfer y pandemig, ac a oedd y DU yn gwbl barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw.

Modiwl 2 - Penderfyniadau craidd y DU a rheolaeth wleidyddol.

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar edrych ar lywodraethu gwleidyddol a gweinyddol a phenderfyniadau "craidd" yn ystod y pandemig.

Mae hyn yn cynnwys yr ymateb cychwynnol, penderfyniadau鈥檙 llywodraeth ganolog, perfformiad gwleidyddol a'r perfformiad gwasanaeth sifil, yn ogystal ag effeithiolrwydd y berthynas 芒 llywodraethau datganoledig a鈥檙 sectorau lleol a gwirfoddol.

Mae modiwl 2 wedi'i rannu ymhellach er mwyn ystyried penderfyniadau'r llywodraethau datganoledig.

  • Modiwl 2A - Yr Alban

  • Modiwl 2B - Cymru (Mae'r gwrandawiadau yng Nghaerdydd yn rhan o'r modiwl hwn)

  • Modiwl 2C - Gogledd Iwerddon

Modiwl 3 - Effaith pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd ym mhedair gwlad y DU

Modiwl 4 - Brechlynnau a therapiwteg

Modiwl 5 - Caffael

Modiwlau newydd

Bydd modiwlau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf ac yn ystyried y meysydd canlynol:

  • Profi ac olrhain

  • Ymatebion busnes ac ariannol y llywodraeth

  • Anghydraddoldebau iechyd ac effaith Covid-19

  • Addysg, plant a phobl ifanc

  • Gwasanaethau cyhoeddus eraill, gan gynnwys darpariaeth rheng flaen gan weithwyr allweddol.

Beth fydd y pynciau trafod yng Nghymru?

Fe fydd y gwrandawiadau yn canolbwyntio ar y penderfyniadau gan grwpiau allweddol neu unigolion o fewn Llywodraeth Cymru, yn bennaf yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr 2020 a Mai 2022 - pan godwyd y cyfyngiadau diwethaf.

Mae'n debygol y bydd yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:

  • Y berthynas a'r cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, llywodraethau datganoledig eraill ac awdurdodau lleol;

  • Dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o natur a lledaeniad Covid-19, yn ogystal 芒'r ymateb, gan ystyried gwybodaeth ddaeth gan Lywodraeth y DU, cyrff cenedlaethol/rhyngwladol ynghyd ag ymgynghorwyr gwyddonol a meddygol;

  • Amseru a pha mor rhesymol oedd penderfyniadau fel cyflwyno'r cyfnod clo, cyfyngiadau lleol, gweithio gartref, cadw pellter cymdeithasol, lleihau cyswllt rhwng pobl, gorchuddion wyneb ac unrhyw wahaniaethau polisi yng Nghymru;

  • Y defnydd o arbenigedd meddygol a gwyddonol. Pa fath o gasglu neu fodelu data oedd yn digwydd i asesu cyfraddau trosglwyddo, heintio a marwolaethau;

  • Negeseuon a chyfathrebu iechyd cyhoeddus - tryloywder y negeseuon yn ogystal 芒 hyder y cyhoedd ynddyn nhw;

  • Deddfwriaeth a rheoliadau - pa mor gyfrannol oedden nhw, yn ogystal 芒 sut y cawson nhw eu gorfodi.

Pynciau cysylltiedig