'Siarad Cymraeg yn well na Saesneg ar 么l cael str么c'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a dreuliodd dri mis yn yr ysbyty ar 么l cael str么c yn dweud fod prinder gwasanaethau ar gael iddi hi yn y Gymraeg.
Fe gafodd Sian Teagle, 50 oed o Fargoed yn Sir Caerffili, str么c ym mis Rhagfyr 2022.
Dywedodd ei bod yn gwerthfawrogi鈥檙 gofal a'r gefnogaeth yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty.
Ond mae'n poeni na chafodd hi gynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i wella cefnogaeth i鈥檙 rhai sydd wedi goroesi str么c, ac mae darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn rhan allweddol o hyn.
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
Eglurodd Ms Teagle fod y salwch wedi ei tharo yn gwbl annisgwyl.
"Es i鈥檙 gwely gyda phen tost, ac wedyn wnaeth larwm fynd ffwrdd fel yr arfer er mwyn i fi fynd i鈥檙 gwaith ond o'n i ffili symud," meddai.
"Ffoniodd fy merched yr ambiwlans ac fe wnaethon nhw ddweud bo' fi wedi cael str么c.
"Roedd yn amser hir. Fe ges i Ddolig yn yr ysbyty.
"Ar 么l dod adref fe wnaeth physios ddod mewn ac fe ddaeth pobl eraill hefyd i helpu.
"Roedd yna gyfarfod bob wythnos i wneud ymarferion a hynny ar y we."
Doedd Ms Teagle ddim wedi gofyn am help yn y Gymraeg, meddai, am nad oedd hi'n sylweddoli ei fod ar gael.
Ond聽mae'n credu bod cynnig therapi lleferydd ac iaith yn Gymraeg yn hanfodol i siaradwyr yr iaith.
Wrth edrych yn 么l, mae hi'n bendant y byddai cymorth o'r fath wedi bod yn help iddi wrth wella.
"Yr unig bobl oedd yn siarad Cymraeg oedd fy nheulu," meddai. "Doedd neb arall yn siarad Cymraeg gyda fi."
Ychwanegodd Ms Teagle bod ei Chymraeg yn well na'i Saesneg ar 么l y str么c.
"Fy merch hynaf wnaeth sylweddoli bod fy Nghymraeg yn well na fy Saesneg.
"Hi ddywedodd ei bod hi'n sylwi bo fi yn slurrio yn Saesneg yn enwedig pan bo' fi 'di blino.
"Ond roedd fy Nghymraeg wastad yn glir."
Mae'r Gymdeithas str么c yn dweud聽y dylid "cynnig gwasanaeth Cymraeg i oroeswyr str么c sy'n siarad Cymraeg er mwyn sicrhau cydraddoldeb".
Comisiynodd yr elusen waith ymchwil gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i ganfod anghenion a phrofiadau goroeswyr str么c sy'n siarad Cymraeg a phwysigrwydd cefnogaeth yn eu hiaith gyntaf, sef Cymraeg.
Dywedodd Llinos Wyn Parry, Arweinydd Ymgysylltu ar gyfer y Gymdeithas Str么c yng Nghymru, fod y sefyllfa yn amrywio o ardal i ardal ar hyn o bryd.
"Os ydyn nhw'n byw yng Ngwynedd a M么n mae鈥檙 ddarpariaeth yn dda iawn o safbwynt gwasanaethau dwyieithog," meddai.
"Ond os yn byw mewn ardaloedd eraill, mae yn gallu bod yn ychydig bach o loteri cod post."
Mae Sian Teagle yn dal i wella o'r str么c, ond awgrymodd y byddai ei theulu hefyd wedi elwa yn fawr o gael gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
鈥淏ydde fy mhlant a fy chwaer wedi bod yn fwy hyderus i siarad gyda鈥檙 nyrsys a'r doctoriaid yn Gymraeg," meddai.
"A bydde hyd yn oed rhywbeth syml fel cael pawb sydd yn medru'r Gymraeg i wisgo bathodyn a logo iaith gwaith, byddai hynny yn ffantastig."
Gwasanaethau Cymraeg yn 'allweddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi goroeswyr str么c ac i鈥檞 helpu i ailadeiladu eu bywydau. Mae gwasanaethau Cymraeg yn rhan allweddol o hyn.
Mae therapi iaith a lleferydd yn flaenoriaeth i'r cynllun 'Mwy na geiriau', meddai, gan ychwanegu eu bod yn croesawu'r ymchwil i brofiadau goroeswyr str么c sy'n siarad Cymraeg.
"Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ariannu cwrs therapi Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam i wella gwasanaethau ar draws Cymru," meddai.
Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi buddsoddi mewn adsefydlu ac i gynyddu gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys therapyddion iaith.