Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau
- Cyhoeddwyd
Mae cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau fore Sul a hynny naw mlynedd ers dymchwel hen gyfnewidfa'r brifddinas.
Ers 2015, bu'n rhaid i deithwyr ddefnyddio safleoedd bws sydd wedi'u gwasgaru ar hyd canol y ddinas.
Roedd y safle i fod i agor yn 2017 ond fe wnaeth sawl her darfu ar y cynlluniau, gan gynnwys y pandemig.
Mae'r gyfnewidfa wedi'i lleoli gyferbyn 芒 gorsaf Caerdydd Canolog.
Mae ganddi 14 o safleoedd bws, tai bach cyhoeddus, a phedair uned ar gyfer siopau.
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
Trafnidiaeth Cymru (TC) sy'n rheoli'r safle, ac mae'r corff yn gobeithio y bydd yn gwella cysylltiadau fel rhan o ddatblygiad Metro De Cymru.
Bydd 25 gwasanaeth yn mynd a dod o'r safle bob awr.
Y gobaith ydy cyrraedd 60 gwasanaeth yr awr erbyn diwedd y flwyddyn.
Pa wasanaethau fydd yn defnyddio'r gyfnewidfa?
Bydd y gyfnewidfa yn gartref i sawl un o wasanaethau Bws Caerdydd o ddydd Sul.
Dyma restr o'r gwasanaethau hynny:
13 Canol y ddinas - Trelai - Y Ddr么p
25 Canol y ddinas - Llandaf - Yr Eglwys Newydd
32 Canol y ddinas - Treganna - Sain Ffagan
61 Canol y ddinas - Y Tyllgoed - Pentrebaen
62 a 63 Canol y ddinas - Llandaf - Rhydlafar (62) neu Radur (63)
92, 93 a 94 Caerdydd - Penarth - Dinas Powys (93) neu Sili (94) - Y Barri
95 Caerdydd - Llandochau - Dinas Powys - Y Barri
96 Caerdydd - Y Barri
Mae manylion llawn am deithiau Bws Caerdydd i'w cael .
Y bwriad yw i wasanaethau Bws Casnewydd a Stagecoach ddefnyddio'r gyfnewidfa yn ddiweddarach eleni, medd Trafnidiaeth Cymru.
Ni fydd teithiau i rannau eraill o'r DU gyda chwmn茂au fel National Express a Megabus yn defnyddio'r gyfnewidfa.
Beth sydd y tu fewn i'r orsaf?
Mae'r orsaf yn ffordd "modern, gl芒n a diogel" i deithwyr ddal y bws, medd Trafnidiaeth Cymru.
Mae sgriniau y tu fewn i'r gyfnewidfa'n cynnig gwybodaeth am deithiau o'r orsaf drenau gerllaw.
Bydd staff wrth law er mwyn helpu teithwyr i ddod o hyd i'r bws cywir.
Mae tai bach cyhoeddus a meinciau, a phedair uned ar gyfer siopau.
Mewn ymgais i wneud y gyfnewidfa yn fwy hygyrch, mae palmant botymog yn cysylltu'r bysiau 芒'r tai bach.
Dywed Marie Daly, prif swyddog cwsmeriaid diwylliant Trafnidiaeth Cymru, bod y corff yn "gweithio fel un t卯m ar hyd y rheilffyrdd a bysiau er mwyn cynnig profiad di-dor i gwsmeriaid".
"Mi fyddai hi wedi bod yn wych gweld yr orsaf yn agor ynghynt, ond yr hyn ry'n ni'n canolbwyntio arno ydy pa mor wych yw'r gyfnewidfa."
Pam dymchwel yr hen safle?
Cafodd hen orsaf fysiau Caerdydd ei hadeiladu yn y 1950au.
Erbyn y 2010au, wedi i ganolfan siopa Dewi Sant gael ei hadeiladu, roedd cynlluniau i'r orsaf ac ardal ehangach y Sgw芒r Canolog gael eu hailddatblygu.
Dechreuodd y gwaith o ddymchwel yr orsaf fysiau yn 2015.
Cafodd sawl adeilad a oedd yn dal swyddfeydd a hen faes parcio eu dymchwel hefyd.
Cafodd cynlluniau ar gyfer y gyfnewidfa newydd eu cymeradwyo yn 2018.
Yn y cyfamser, cafodd nifer o adeiladau ar gyfer swyddfeydd eu codi yn y Sgw芒r Canolog.
Fe wnaeth 成人快手 Cymru symud mewn i un o'r adeiladau, ar safle'r hen orsaf fysiau, yn 2020.
Beth yw barn y teithwyr?
"'Dw i'n meddwl ei fod e'n beth da," medd un teithiwr Tracey Roberts.
"Fydd e bendant yn gwella pethau, bod gan bobl rhywle i fynd er mwyn dal y bws.
"Es i heibio fe wrth fynd at y tr锚n. Roedd e'n edrych yn wych."
Ond doedd pawb ddim mor bositif.
"Mae'n wael, mae e just yn rhy fach," meddai Steve Tribble.
"Mae'r orsaf yn y lle anghywir. Mae'r traffig yn fan hyn yn hurt. Fe gymeron nhw orsaf fysiau oedd yn iawn fel oedd hi, a'n gadael ni gyda hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mai
- Cyhoeddwyd18 Ebrill