Pryder y bydd eisteddfodau bro 'yn darfod' heb waed ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae un o drefnwyr eisteddfod ym M么n yn poeni am ddyfodol eisteddfodau lleol os na ddaw mwy o bobl ifanc yn rhan o'r pwyllgorau trefnu.
Mae Si芒n Arwel Davies yn aelod o bwyllgor Eisteddfod bro Llandegfan - sy'n dathlu canrif ers ei sefydlu eleni.
Ond mae hi'n poeni am ddyfodol rhai eisteddfodau lleol, gan ddweud: "I edrych ar yr ochr dduaf, mi fyddan nhw'n darfod."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: "Mae 'na bryder yngl欧n 芒 rhai ohonyn nhw... mae cyfartaledd oed pwyllgorau Eisteddfodau yn gyffredinol uchel, felly mae isio denu gwaed newydd."
Mae'r eisteddfod leol yn Llandegfan yn cael ei chynnal bob Gorffennaf, ond dydy'r trefnwyr ddim wedi gallu cynnal eisteddfod fel yr arfer yn y blynyddoedd ers y pandemig.
Dywedodd un o'r trefnwyr, Si芒n Arwel Davies: "Rydyn ni wedi cael y pedair blynedd yma o saib.
"Gafon ni eisteddfod fach flwyddyn ddiwethaf... ond dyma'r flwyddyn gyntaf i ni gael 'steddfod lawn. 'Dan ni'n gweld y diffyg r诺an o'r gwaed ifanc.
"Mi fasa ni'n hoffi cael mamau a thadau ifanc sydd 芒 phlant ifanc yn yr ysgol leol... mae 'na rai awydd, ond yn teimlo nad oes ganddyn nhw brofiad.
"Mae'r eisteddfod yn ceisio denu mwy o bobl ifanc i feithrin diddordeb yn yr eisteddfod drwy gydweithio gyda'r ysgol leol."
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Llandegfan yn gwneud gwaith arbennig ar yr eisteddfod leol ar hyn o bryd.
Dywedodd Mrs Davies: "Mae 'na garfan o fewn yr ysgol, pedair blwyddyn, heb gael profiad o eisteddfod... mae 'na gydweithio agos efo'r ysgol, mae hynny'n bwysig."
Mae Cado yn un o'r plant sydd wrthi'n dylunio logo ac yn llunio holiadur i'r eisteddfod.
"'Dan ni'n dylunio logo... os ydyn ni'n ennill bydd o ar y medalau, ar siwmperi a bob dim yn yr eisteddfod," meddai.
Dywedodd hefyd fod dysgu am hanes yr eisteddfod yn bwysig.
"Dim ond Cymru sydd fel arfer yn ei wneud, ac mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn hefyd."
'Ochr arall i'r geiniog'
Un sy'n poeni fod rhai eisteddfodau lleol yn diflannu ydy Bill Davies, is-gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.
Dywedodd: "Mae 'na bryder yngl欧n 芒 rhai ohonyn nhw.
"'Dw i'n gwybod fod yna lond llaw ohonyn nhw wedi gorfod rhoi'r gorau iddi ar 么l y pandemig."
Ond aeth ymlaen i ddweud fod 'na "ochr arall i'r geiniog hefyd".
"Mae 'na eisteddfodau newydd wedi cael eu creu ers y pandemig... mae 'na fywyd hefyd yn ogystal 芒'r ochr negyddol."
Wrth drafod y diffyg pobl ifanc ar bwyllgorau, dywedodd fod yn rhaid wynebu fod hynny'n ffaith.
"Sut mae diffinio ieuenctid? Wrth edrych ar y rhan fwyaf o eisteddfodau lleol yng Nghymru - pobl ar eu pensiwn sy'n rhedeg y pwyllgorau, ac os ydyn nhw'n dweud eu bod eisiau pobl ifanc, maen nhw eisiau pobl fengach na nhw.
"Mae 'na le i bobl ganol oed. Mae cyfartaledd [oedran] pwyllgorau eisteddfodau yn gyffredinol, yn gymharol uchel, felly mae isio denu gwaed newydd.
"Peidiwch 芒 digalonni, ond peidiwch 芒 gadael i bethau fynd - mae isio cefnogi nhw cymaint ag y gallwn ni."
'Rhaid i ni symud efo'r oes'
Un o'r eisteddfodau hynny sy'n mynd o nerth i nerth ydy Eisteddfod Ieuenctid Marian-Glas.
Fiona Hughes ydy cadeirydd pwyllgor yr eisteddfod, oedd yn dathlu can mlynedd eleni.
Dywedodd: "'Dan ni wedi symud ac wedi newid pethau ar hyd y blynyddoedd, a 'dan ni'n teimlo fod hynny'n greiddiol i lwyddiant yr eisteddfod.
"Mi ydan ni'n barod i newid ar gyfer y cystadleuwyr a'r gynulleidfa. Mi ydan ni wedi newid y dyddiad o un adeg y flwyddyn i'r llall i weld beth sy'n siwtio.
"'Dan ni'n sicrhau fod rhai cystadlaethau鈥檔 agored, fel nad oes pwysau i bobl ddysgu dim byd gwahanol."
Dywedodd Fiona fod y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig iawn i symud gyda'r oes a datblygu'r eisteddfod.
"'Dwi'n meddwl fod rhaid i ni gyd symud efo'r oes sydd ohoni. 'Dan ni angen cyfuniad o bobl h欧n a phobl ifanc ar rai o'n pwyllgorau ni.
"Mi oedd [y cyfryngau cymdeithasol] yn bwysig i ni er mwyn dathlu'r canmlwyddiant, a sicrhau ein bod ni'n cael ein gweld yn bob man."
Ychwanegodd ei bod yn "drist iawn clywed fod rhai o'n heisteddfodau traddodiadol yn diflannu - ar hyn o bryd 'dan ni'n teimlo fod eisteddfod Marian-Glas yn llwyddiannus iawn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Mai 2023