Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhestrau aros iechyd yn parhau ar eu huchaf erioed
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd iechyd 成人快手 Cymru
Mae maint rhestrau aros y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu unwaith eto, gyda bron 788,000 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau ym mis Mai.
Mae hyn yn golygu fod oddeutu 611,500 o gleifion unigol yn aros am driniaeth - y ffigwr uchaf erioed.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos twf, am yr ail fis yn olynol, yn y nifer sy'n aros y cyfnodau hiraf am driniaeth - gyda dros 22,400 o achosion lle mae rhywun wedi bod yn aros dros ddwy flynedd.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r twf diweddar yn "siomedig" ar 么l cyfnod o ddwy flynedd lle mae'r ffigwr hwnnw wedi bod yn gostwng.
Yn 么l y Ceidwadwyr mae'r ystadegau diweddara' yn "ofnadwy".
Y tu hwnt i restrau aros am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw, mae'r ystadegau yn dangos fod gwasanaethau brys yn dal i fod dan bwysau sylweddol.
Ym mis Mehefin fe dreuliodd 68.9% o gleifion llai na phedair awr mewn uned frys - gwelliant o 0.8% o gymharu 芒'r mis blaenorol - ond ymhell o dan y targed o 95%.
Yn ystod yr un mis bu'n rhaid i 9,989 o gleifion dreulio dros 12 awr yn yr unedau hynny. Er bod hyn 5% yn llai na'r mis blaenorol, yn 么l y targedau dylai neb aros cymaint 芒 hynny.
Gwelwyd gwelliant bach hefyd yn amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans i'r galwadau mwyaf difrifol gyda 46.5% o'r rheiny yn cael ymateb o fewn wyth munud - 0.7% yn well na'r mis blaenorol.
Ond eto i gyd mae hyn yn is o lawer na'r targed o 65% ac yn dal yn agos i'r ffigwr gwaethaf erioed.
O ran amseroedd aros am driniaethau canser, mae'r ffigwr yn dangos peth cynnydd - gyda 55.4% ym mis Mai yn dechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau o gael eu hamau o gael canser.
Mae hyn 1.6% yn uwch na'r mis blaenorol ond 0.3% yn is na Mai 2023.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein staff hynod o weithgar yn y Gwasanaeth Iechyd yn dal i roi gofal sy'n achub a newid bywydau a hynny yn wyneb galw anhygoel am ei wasanaethau.
"Ond ar y cyfan, mae hon yn set siomedig arall o ffigurau perfformiad y Gwasanaeth Iechyd.
"Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd ei bod yn disgwyl gweld cynnydd - a chynnydd parhaus - i leihau arosiadau ac amseroedd aros hir am driniaethau.
"Bydd hi'n dweud yn glir wrth arweinwyr y byrddau iechyd heddiw nad yw'r sefyllfa yn dderbyniol a bydd angen pethau newid."
'25 mlynedd o gamreoli'
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands: "Mae'r ffigyrau ofnadwy yma'n dangos bod perfformiad Llafur ar iechyd yma yng Nghymru yn parhau i waethygu.
"Mae Llywodraeth Cymru o dan Lafur yn gyson wedi methu eu targedau, ac nid yw hyn yn unig oherwydd effaith y prif weinidog sydd ar ei ffordd allan, ond oherwydd effaith 25 mlynedd o gamreoli GIG Cymru."