Edrych ymlaen at opera gyntaf Caryl Parry Jones

Disgrifiad o'r llun, Bu Rhian Lois a Caryl Parry Jones yn sgwrsio gyda Ffion Emyr ar faes yr Eisteddfod

Rydym wedi arfer clywed ei chlasuron pop ar lwyfannau'r Eisteddfod, ond eleni bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth wahanol iawn o waith Caryl Parry Jones.

Opera i un ddynes yw Lydia, Merch y Cwilt ac fe鈥檌 chyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Tregaron 2020. Oherwydd y pandemig, doedd dim modd ei pherfformio bryd hynny ond mae ardal Ceredigion yn ganolog i'r stori o hyd.

Ar raglen O'r Maes, Radio Cymru ddydd Llun, bu Ffion Emyr yn clywed mwy am y cynhyrchiad newydd gan Caryl a'r gantores Rhian Lois.

鈥淔e es i a Non Parry, wnaeth lunio鈥檙 stori gyda mi, i Sain Ffagan un bore i wneud ymchwil. Fe welon ni鈥檙 cwilt yma yn yr arddangosfa, a fe ddaeth y delweddau a鈥檙 stori o hynny.

鈥淔e wnaethon ni greu stori am y ferch yma oedd wedi creu cwilt. Yn y stori, ryda ni wedi mynd i'r afael ar sut fyddai鈥檙 cyfnod yna ar ddechrau鈥檙 ugeinfed ganrif. Y rhagfarnau, problemau a鈥檙 pethau ofnadwy oedd yn digwydd i ferched 鈥 a sydd dal yn digwydd. Mae yna lot o bethau sydd heb newid o gwbl.鈥

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Non Parry o'r gr诺p Eden, a chyfnither i Caryl, helpu gyda'r stori

Dyma鈥檙 tro cyntaf i Caryl 鈥 un o gyfansoddwyr caneuon poblogaidd amlycaf Cymru - fentro i fyd opera.

鈥淩oeddwn i'n benderfynol o fynd tu hwnt i beth dwi鈥檔 arfer ei wneud. Fe wnes i arbrofi 鈥 mae ambell g芒n yn werinol, ambell un gydag arlliw Sioe Cerdd. Ond yn gyffredinol mae wedi fy ngwthio."

Rhian Lois fydd yn perfformio鈥檙 opera, ac wedi鈥檙 holl aros dyw hi methu aros i gamu ar y llwyfan.

鈥淣i gyd wedi bod yn edrych ymlaen at y foment yma ers blynyddoedd maith. Pe bai rhywun wedi dweud wrtha鈥檌 yn blentyn y byddai Caryl Parry Jones yn ysgrifennu opera ar fy nghyfer, bydden i byth yn credu.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Rhian Lois, sy'n serennu yn yr opera, yn cyflwyno rhaglen Swyn y Sul ar Radio Cymru

鈥淢ae hi wir yn sioe gwbl arbennig. Mae鈥檙 gerddoriaeth yn wych a鈥檙 geiriau yn ddirdynnol.鈥

Dyma鈥檙 tro cyntaf i Rhian berfformio opera un person, ac mae cryn dipyn o waith dysgu a pharatoi wedi bod.

Ffynhonnell y llun, Caryl Parry Jones

Disgrifiad o'r llun, Rhian yn ystod yr ymarferion

鈥淏eth sydd mor arbennig am hwn yw fod Caryl wedi ei ysgrifennu, ac mae cael ei chanu yn Gymraeg yn meddwl cymaint. Mae deunaw o ganeuon 鈥 galli gredu faint o waith dysgu sydd!

鈥淢ae gallu uniaethu gyda chymeriad Lydia yn arbennig. Wrth ddarllen y sgript roeddwn i'n gallu gweld cymeriadau鈥檙 ardal yma鈥檔 fyw. Mae stori Lydia yn eithaf torcalonnus 鈥 dwi wedi gorfod mynd i bob pegwn emosiynol posib.鈥

Disgrifiad o'r llun, Caryl Parry Jones yn ei chynefin... o flaen piano!

Bydd perfformiad Lydia, Merch y Cwilt ym mhabell Encore nos Fercher 7 Awst am 20:00.