成人快手

'Dyna un ffordd o fod yn enwog', meddai disgybl, 14, ar 么l trywanu

Disgrifiad,

Cafodd y fideo CCTV yma o'r digwyddiad ei ddangos i'r llys

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad

Mae rheithgor wedi clywed i ferch 14 oed ddweud 鈥渄yna un ffordd o fod yn enwog鈥 ar 么l trywanu tri pherson yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu amser egwyl ar 24 Ebrill.

Mae鈥檙 ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cyfaddef iddi drywanu'r tri, ond mae hi'n gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, gwelodd rheithgor ddeunydd camera corff yr heddlu adeg arestio鈥檙 ferch 14 oed.

Mae'n dangos y diffynnydd yn cael ei throsglwyddo i orsaf heddlu Llanelli yng nghefn cerbyd heddlu ac yn dweud wrth swyddog iddi drywanu disgybl, gan ychwanegu 鈥oopsies鈥.

Gofynnodd y ferch: "Ydyn nhw鈥檔 mynd i farw?

"Dwi 90% yn sicr fydd hyn ar y newyddion a bydd hyd yn oed fwy o bobl yn edrych arna i," meddai.

"Dyna un ffordd o fod yn enwog."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd lluniau'r gyllell a ddefnyddiwyd i ymosod ar yr athrawon a'r disgybl eu dangos i'r llys

Gofynnodd y ferch i'r swyddog: 鈥淔el [sut] alla i wynebu fy nheulu ar 么l be dwi wedi gwneud?鈥

Ychwanegodd: 鈥淗ynny yw, os ydyn nhw鈥檔 troi lan.鈥

Gwelodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng (CCTV) o鈥檙 munudau cyn yr ymosodiadau oedd yn dangos y diffynnydd yn eistedd yn neuadd yr ysgol.

Cafodd y ferch ei gweld yn eistedd o amgylch bwrdd gyda chriw o ddisgyblion, yn dangos cyllell yn ei phoced.

Funudau鈥檔 ddiweddarach mae鈥檔 cerdded tu allan tuag at Liz Hopkin a Fiona Elias ac yn dechrau trywanu Ms Elias.

Gwelwyd Ms Elias yn dianc cyn i鈥檙 ferch droi at Liz Hopkin a dechrau ei thrywanu hithau.

Anadlu'n drwm a 'syllu'n wag'

Mae鈥檙 deunydd CCTV yn dangos y diffynnydd yn rhedeg tuag at ddisgybl a鈥檔 gweiddi arni, cyn ei thrywanu.

Cafodd fideo gan ddisgybl ar ap Snapchat ei ddangos hefyd, yn dangos y foment cafodd y disgybl ei thrywanu gan ferch 14 oed.

Roedd y fideo yn dangos plentyn yn cyfeirio at ddisgybl a鈥檔 dweud: 鈥淢ae hi newydd gael ei thrywanu."

Dangosodd y fideo olygfa swnllyd gyda nifer o blant o gwmpas, ac athrawes, Alexandra McNeill yn gweiddi: 鈥淓wch yn 么l nawr.鈥

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr athrawon Liz Hopkin (chwith) a Fiona Elias (dde) eu hanafu yn yr ysgol ar 24 Ebrill

Cafodd datganiad ei ddarllen hefyd gan James Durbridge, pennaeth Ysgol Dyffryn Aman.

Fe dderbyniodd alwad gan Fiona Elias, meddai, yn dweud ei bod hi wedi cael ei thrywanu gan ddisgybl.

Disgrifiodd Mr Durbridge iddo ddechrau system dan glo, neu 鈥code red鈥, cyn symud allan i iard yr ysgol.

Dywedodd iddo edrych i lygaid y ferch, gan ddweud: 鈥淭i鈥檔 ddiogel ond mae angen imi gael y gyllell.鈥

Yn 么l Mr Durbridge, roedd y ferch yn anadlu鈥檔 drwm ac yn "syllu鈥檔 wag".

Fe ollyngodd y ferch y gyllell gan ei roi i aelod o staff, meddai.

Aeth Mr Durbridge i mewn i鈥檙 adeilad i weld Liz Hopkin, oedd wedi ei thrywanu pum gwaith, gan gynnwys yn ei gwddf.

Dywedodd iddo weld Ms Hopkin yn rhoi pwysau ar ei gwddf, a'i bod yn "gwaedu鈥檔 drwm".

Disgrifiodd i Fiona Elias gael "anaf dwfn" ar dop ei braich chwith.

Gwrthod ateb cwestiynau

Yn natganiad Ceri Myers, dirprwy bennaeth Ysgol Dyffryn Aman, dywedodd iddo aros gyda鈥檙 ferch yn ei swyddfa tra鈥檜 bod yn aros am yr heddlu.

Dywedodd nad oedd y ferch yn ateb ei gwestiynau, a gofynnodd a oedd unrhyw beth yn ei cheg.

Yn 么l Mr Myers, atebodd y ferch: 鈥淥s oedd gen i rywbeth yn fy ngheg byddwn i wedi ei ddefnyddio i ladd fy hun erbyn nawr.鈥

Gofynnwyd iddi a oedd yn meddwl am hunan-niweidio ac atebodd: "Na."

Cafodd y ferch 14 oed ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Ysgol Dyffryn Aman.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y diffynnydd yn ateb unrhyw gwestiynau ar y pryd.

Yn 么l swyddogion fe ddywedodd y ferch: 鈥淒wi ddim yn ateb unrhyw beth nawr tan i fy nhad gyrraedd.鈥

Clywodd y rheithgor ddatganiad gan y parafeddyg cyntaf i ymateb i鈥檙 digwyddiad, William Pridmore-Bowen.

Fe gadarnhaodd i Liz Hopkin gael 鈥渟awl anaf o ganlyniad i drywanu鈥.

Cafodd ei throsglwyddo i ysbyty yng Nghaerdydd gan ambiwlans awyr.

Yno aeth i weld Fiona Elias a鈥檙 disgybl gan ddweud nad oedd angen 鈥渢riniaeth brys鈥 arnyn nhw.

Gwelodd y rheithgor luniau o anafiadau Liz Hopkin, Fiona Elias a鈥檙 disgybl.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y ferch 14 oed ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Ysgol Dyffryn Aman

Fe ddangosodd yr erlynydd William Hughes ddarluniau a wnaed gan y diffynnydd a gafodd eu canfod yn ei bag a鈥檌 hystafell wely .

Roedd un darlun yn cyfeirio at 鈥淢rs Frogface Elias鈥 ac un arall yn dweud 鈥淏YDD [y disgybl] YN LLOSGI!鈥

Roedd ei darluniau yn cynnwys y geiriau, 鈥渂oddi鈥, 鈥済allen nhw farw鈥 gyda wyneb hapus ar ei bwys, a 鈥渢orri eu llygaid a鈥檜 cegau鈥.

Roedd llyfrau nodiadau yn dweud bod y diffynnydd eisiau lladd ei hun, a鈥檙 geiriau 鈥淢AE鈥橬 FY NGHASAU I鈥.

Ychwanegodd: 鈥淒wi eisiau gwneud rhywbeth dyw pobl ddim fod i wneud鈥 a 鈥淧am ydw i eisiau lladd eraill gymaint 芒 dwi eisiau lladd fy hun?鈥

Yn ystod y rhan yma o鈥檙 achos roedd pen y ferch 14 oed ar y bwrdd wrth iddi eistedd gyda鈥檌 th卯m cyfreithiol.

Mae鈥檙 ferch 14 oed yn gwadu ceisio llofruddio ac mae鈥檙 achos yn parhau.