Teyrnged i ddyn 'annwyl' fu farw ger Llanrwst

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Brian Perry wedi mynd 芒'i gi am dro ger pentref Trefriw ger Llanrwst

Mae teulu dyn a gafodd ei ganfod yn farw ar 么l mynd i gerdded ger Afon Conwy wedi rhoi teyrnged i "诺r, tad, brawd a thaid annwyl".

Cafodd corff Brian Perry, 75, ei ddarganfod rhwng Trefriw a Llanrwst ddydd Sul.

Doedd Mr Perry heb gael ei weld ers prynhawn Sadwrn, wedi iddo fynd 芒'i gi am dro yn ardal Trefriw.

Roedd wedi bod yn cerdded mewn ardal oedd wedi gweld llifogydd sylweddol o ganlyniad i Storm Bert.

'Dim geiriau i ddisgrifio ein colled'

Dywedodd ei deulu ddydd Mawrth: 鈥淗offem ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru a鈥檙 gwasanaethau achub am eu holl ymdrechion, mewn amodau hynod heriol, i ddod o hyd i鈥檔 g诺r, tad, brawd a thaid annwyl, Brian.

"Roedd yn cael ei garu'n fawr gan ei deulu estynedig a'i lawer o ffrindiau.

鈥淒oes dim geiriau i ddisgrifio ein colled, ond bydd yn cael ei garu鈥檔 wirioneddol bob dydd.鈥

Roedd y gwasanaethau brys, ynghyd 芒 thimau chwilio tanddwr, wedi bod yn archwilio Afon Conwy ers i Mr Perry fynd ar goll.

Roedd wedi bod yn cerdded gyda'i wraig a'u ci rhwng Trefriw a Llanrwst - ardal sydd wedi gweld llifogydd sylweddol wedi Storm Bert.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan ddeifiwr heddlu yn yr ardal ddydd Sul.